Protest Cymdeithas yr Iaith y tu allan i'r BBC yng Nghaerdydd Llun: Carl Morris
Mae cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, wedi cytuno i siarad ag ymgyrchwyr iaith sy’n protestio y tu allan i swyddfeydd y gorfforaeth yng Nghaerdydd.

Mae grŵp o Gymdeithas yr Iaith yn protestio yno ar hyn o bryd mewn ymateb i raglen ‘The Cost of Saving the Welsh Language’ y gyfres materion cyfoes, Week In Week Out.

Fe wnaeth y protestwyr – tua 10 ohonynt – gwyno nad oedd Rhodri Talfan Davies “yn fodlon ateb eu cwestiynau”, ond mae e wedi cytuno i drafod erbyn hyn.

‘Unochrog a rhagfarnllyd’

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, er bod y gyfres wedi tynnu ei hamcangyfrif “gwallus” o gost y Safonau Iaith o’i rhaglen, roedd hi dal yn “unochrog a rhagfarnllyd”.

Mae darlledu’r rhaglen yn golygu bod y BBC wedi “torri’r gofynion sydd arni i fod yn ddiduedd”, yn ôl yr ymgyrchwyr.

Mewn llythyr at Rhodri Talfan Davies, galwodd Cymdeithas yr Iaith am bedwar cam gweithredu gan y gorfforaeth, sef:

  • Cynnal ymchwiliad i’w prosesau mewnol a’i pholisïau am sut i drin y Gymraeg
  • Trefnu cyrsiau ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg ar gyfer ei holl staff
  • Ymddiheuro am ddarlledu’r rhaglen ‘wallus a rhagfarnllyd’ hon
  • Darlledu rhaglen oriau brig o natur gwbl wahanol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrafod yn gywir ac yn gytbwys.

Mewn ymateb bore ‘ma, dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Rydym wedi derbyn llythyr gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a byddwn yn ymateb maes o law.”