Llun: BBC Cymru
Mae protest wedi’i threfnu y tu allan i swyddfeydd y BBC yng Nghaerdydd heddiw mewn ymateb i raglen y gyfres materion cyfoes, Week In Week Out.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, er bod y gyfres wedi tynnu ei hamcangyfrif cost “gwallus” y Safonau Iaith o’i rhaglen ‘The Cost of Saving the Welsh Language’, roedd hi dal yn “unochrog a rhagfarnllyd”.

Mae darlledu’r rhaglen yn golygu bod y BBC wedi “torri’r gofynion sydd arni i fod yn ddiduedd”, yn ôl yr ymgyrchwyr.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, yn galw am bedwar cam gweithredu gan y gorfforaeth, sef:

  • Cynnal ymchwiliad i’w prosesau mewnol a’i pholisïau am sut i drin y Gymraeg
  • Trefnu cyrsiau ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg ar gyfer ei holl staff
  • Ymddiheuro am ddarlledu’r rhaglen ‘wallus a rhagfarnllyd’ hon
  • Darlledu rhaglen oriau brig o natur gwbl wahanol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrafod yn gywir ac yn gytbwys.

Yn ei lythyr, dywedodd Cadeirydd y mudiad, Jamie Bevan, ei fod yn credu hefyd “na ddylai corfforaeth sydd wedi cymeradwyo rhaglen o’r fath gael unrhyw ddweud ynghylch rheolaeth, strategaeth nag ariannu S4C.

“Wrth ystyried goruchwyliaeth dros ddarlledwr Cymraeg sydd o bwys sylfaenol i gyflwr yr iaith, mae’n amlwg nad oes modd ymddiried mewn corfforaeth sy’n caniatáu i’r fath ragfarn gael ei darlledu,” meddai.

BBC yn ymddiheuro

Roedd Week In Week Out wedi penderfynu tynnu ei hamcangyfrif o £200m o’r gost o gyflwyno’r Safonau Iaith o’i rhaglen am fod yr amcangyfrif wedi’i selio ar “ddata sydd ddim yn gadarn”.

“Darlledwyd amcangyfrif o gost posib cyflwyno’r Safonau Iaith y bore ’ma, cyn darlledu rhaglen Week In Week Out heno,” meddai llefarydd ar ran BBC Cymru ar y pryd.

“Cafodd yr amcangyfrif ei seilio ar ddata sydd ddim yn gadarn ac rydym wedi ei hepgor o’r rhaglen a’r erthyglau ar-lein bellach. Hoffem ymddiheuro am y camgymeriad.”

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Rydym wedi derbyn llythyr gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a byddwn yn ymateb maes o law.”