Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn 28 oed wedi gwadu llofruddio bachgen 17 mis oed ei gariad newydd mewn ymosodiad “bwriadol a chiaidd”.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod parafeddygon wedi dod o hyd i Finley John Thomas yn edrych fel “ysbryd” yn ei gartref yn Nhonypandy cyn ei gludo i’r ysbyty.

Daeth i’r amlwg fod ganddo waedlif ar ei ymennydd ac anaf arall i’w glust.

Mae Sean Buckley, cariad mam Finley, yn gwadu llofruddio’r plentyn.

Mae mam Finley, Chloe Thomas yn gwadu cyhuddiad o greulondeb i blentyn – cyhuddiad y mae Buckley hefyd yn ei wadu.

‘Gweithred fwriadol a chiaidd’ 

Dywedodd y ddau wrth barafeddygon fod y plentyn wedi cwympo i lawr y grisiau ond wrth i’r achos ddechrau, dywedodd yr erlynydd Roger Thomas nad “damwain” oedd ei farwolaeth.

Yn hytrach, dywedodd y bu’r plentyn farw o ganlyniad i “weithred fwriadol a chiaidd” gan Buckley.

Dywedodd fod Buckley wedi ceisio cuddio’i ran ym marwolaeth y plentyn, a bod Chloe Thomas wedi ei gynorthwyo i guddio’r gwirionedd.

Dechreuodd y ddau berthynas â’i gilydd pan oedd Finley yn flwydd oed yn 2013.

Ym mis Medi’r flwyddyn ganlynol, ffoniodd Chloe Thomas 999 gan honni bod ei mab wedi taro’i ben yn eu cartref.

Yn y cefndir, dywedodd Buckley fod Finley wedi cwympo i lawr y grisiau.

Dywedodd yr erlynydd mai “celwyddau mileinig a bwriadol” oedd y rhain.

Cefndir

Cafodd Finley ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar Fedi 23 cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle gwelodd meddygon fod  ei ben wedi chwyddo a bod cleisiau ar ei glust.

Dywedodd y ddau wrth feddygon nad oedden nhw wedi gweld Finley yn cwympo, ond ei fod e wedi cwympo i lawr y grisiau cyn hynny.

Bu farw Finley y diwrnod canlynol, a chafodd nifer o anafiadau eraill eu darganfod yn ystod archwiliad post-mortem, gan gynnwys asennau a phenglog wedi torri.

Clywodd y llys fod meddyg paediatreg wedi dweud mewn adroddiad y gallai’r anafiadau fod wedi cael eu hachosi gan siglo, cael ei daflu neu “sawl ergyd”.

Dywedodd yr adroddiad fod yr anafiadau’n “anarferol iawn” i blentyn mor ifanc pe bai wedi cwympo i lawr y grisiau.

Mae’r ail reithgor wedi dechrau clywed tystiolaeth ar ôl i’r rheithgor gwreiddiol gael eu rhyddhau “o anghenraid” ddydd Mawrth.

Mae’r achos yn parhau, ac mae disgwyl iddo bara hyd at chwe wythnos.