Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru Llun: Plaid Cymru
Mae Leanne Wood wedi cyhoeddi pwy sydd yng nghabinet cysgodol newydd Plaid Cymru yn y Cynulliad.

Dywedodd yr arweinydd ei bod hi wedi dewis “tîm cryf” i sicrhau addewidion maniffesto’r blaid ac i graffu ar lywodraeth leiafrifol y Blaid Lafur.

Mewn datganiad, dywedodd Leanne Wood: “Mae hwn yn dîm cryf a rhagorol i gyflawni dros bobl a chymunedau yng Nghymru.

“Rwyf wedi rhoi addewid i wneud yn siŵr mai Plaid Cymru fydd yr wrthblaid fwyaf effeithiol yn hanes Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gan y tîm hwn y gallu, y grym a’r profiad i gadw at yr addewid hwnnw.

“Gyda’n gilydd, rydym yn edrych ymlaen at ddwyn y llywodraeth i gyfrif ac at wneud y mwyaf o’r cyfleoedd fydd yn codi dros y pum mlynedd nesaf. Rydym eisoes wedi dangos i’r Llywodraeth leiafrifol na allant weithredu fel petai ganddynt fwyafrif.

“Rydym wedi gosod ein blaneoriaethau yn wythnosau cyntaf y pumed Cynulliad. Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn ymdrechu fel tîm i osod y sylfeini ar gyfer cynnydd ein cenedl.

“Wnawn ni ddim derbyn yr ail orau i’n cenedl ac yr ydym yn fwy na pharod i ddefnyddio ein dylanwad yn y Siambr i gyflwyno’r newid trawsnewidiol y bu Cymru’n crefu amdano ers blynyddoedd.

“Rwyf yn edrych ymlaen at weld busnes y Cynulliad yn cychwyn o ddifrif er mwyn i ni gael bwrw ati.”

Y tîm yn llawn:

Addysg, Plant, Sgiliau a Dysgu Gydol Oes: Llŷr Huws Gruffydd

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Rhun ap Iorwerth

Busnes, Economi a Chyllid: Adam Price

Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Simon Thomas

Llywodraeth Leol, yr Iaith Gymraeg, Cydraddoldeb a Chynllunio: Siân Gwenllian

Tai, Tlodi a Chymunedau (a dur): Bethan Jenkins

Chwaraeon a Thwristiaeth: Neil McEvoy

Cadeirydd a Chomisiynydd Grŵp y Blaid, Diwylliant a Seilwaith: Dai Lloyd

Mesur Cymru a’r Cyfansoddiad: Dafydd Elis Thomas

Materion Allanol, Materion Nas Datganolwyd, yr Heddlu, y System Cyfiawnder Troseddol a Nawdd Cymdeithasol: Steffan Lewis