Cefnogwyr Cymru Llun: Adam Davy/PA
Mae swyddogion heddlu o Gymru fydd yn cynorthwyo yn Ewro 2016 wedi galw ar gefnogwyr y crysau cochion i fod yn “lysgenhadon” a bod ar eu hymddygiad gorau yn Ffrainc.

Mae disgwyl i ddegau o filoedd o gefnogwyr deithio draw ar gyfer y gemau, ac mae’r awdurdodau eisoes wedi cymryd camau diogelwch ychwanegol ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr ar 16 Mehefin.

Bydd gwaharddiad ar werthu a chludo alcohol i mewn i dref Lens ar ddiwrnod y gêm rhwng y ddau dîm, ond mae disgwyl y bydd diodydd ar werth yn y parth cefnogwyr ac yn y bariau lleol.

Mae’r awdurdodau eisoes wedi mynnu bod yn rhaid i 1,841 o gefnogwyr Lloegr ac 86 o gefnogwyr Cymru ildio’u pasborts cyn y gystadleuaeth, am eu bod nhw wedi cael eu gwahardd rhag teithio dramor i wylio pêl-droed.

‘Cynrychioli Cymru’

Yn ôl yr uwch-arolygydd Steve Furnham o Heddlu De Cymru, fydd yn arwain dirprwyaeth o swyddogion yn Ffrainc, mae’n anodd gwybod beth i’w ddisgwyl gan gefnogwyr Cymru fydd yn teithio i dwrnament rhyngwladol i gefnogi’u tîm am y tro cyntaf.

“Ein neges ni i’r cefnogwyr yw eich bod chi’n llysgenhadon. Wrth i’r tîm eich cynrychioli chi ar y cae, rydych chi’n cynrychioli’r tîm oddi ar y cae,” meddai Steve Furnham.

“Mae hwn yn brofiad newydd nid yn unig i’r genhedlaeth nesaf ond i sawl cenhedlaeth ers 1958. Mae’n brofiad cwbl newydd ac un y bydd pawb yn edrych ymlaen ato.”

Ychwanegodd eu bod yn disgwyl i lawer o gefnogwyr Cymru leoli’u hunain yn ne Ffrainc, gan fod Cymru’n chwarae dwy o’u gemau grŵp yn ninasoedd Bordeaux a Toulouse.

Gwaharddiad

Yn y cyfamser mae’r awdurdodau yn Ffrainc wedi cyhoeddi gwaharddiad alcohol 24 awr yn Lens ar ddiwrnod y gêm rhwng Cymru a Lloegr, gan ddechrau am 6.00yb.

Mae’n golygu na fydd modd prynu alcohol yn y siopau lleol ac yfed ar y strydoedd, parciau neu feysydd parcio, a bydd yr heddlu hefyd yn chwilio cerbydau sydd yn teithio i mewn i’r dref.

Ond fe fydd alcohol ar gael yn y parth cefnogwyr swyddogol, yn ogystal ag yn y bariau.

Serch hynny, gyda’r dref yn un gymharol fechan a’r parth cefnogwyr yn dal 10,000 o bobol yn unig, mae’r heddlu wedi rhybuddio unrhyw un sydd heb docynnau ar gyfer y gêm i aros draw o Lens, a gwylio’r ornest mewn parthau llawer mwy eu maint yn Lille neu Paris.

Prydain yn cynorthwyo

Yn ôl yr heddlu fe allai hyd at 500,000 o gefnogwyr pêl-droed o Brydain, hanner ohonyn nhw heb docynnau, deithio i Ffrainc ar gyfer y twrnament.

Mae disgwyl y bydd swyddogion o Brydain  yno’n cynorthwyo’r Ffrancwyr, gan geisio osgoi gweld tactegau llawdrwm yn cael eu defnyddio ar gefnogwyr meddwol neu swnllyd sydd ddim o reidrwydd yn fygythiad.

Mae hwliganiaid pêl-droed sydd yn hysbys i’r heddlu eisoes wedi cael gwaharddiadau teithio, ond fe gyfaddefodd swyddogion y bydd hi’n anodd sicrhau bod pob un sydd yn mynd yn ymddwyn yn gyfrifol.

Ac fe fydd awdurdodau Ffrainc hefyd yn cynyddu eu presenoldeb diogelwch hwythau ar gyfer y gystadleuaeth, yn sgil y nifer o ymwelwyr maen nhw’n ei ddisgwyl a’r bygythiad brawychol diweddar.