Gorsaf bŵer Didcot, yn Sir Rhydychen
Mae’r gwaith i geisio dod o hyd i gyrff tri dyn ar ôl i orsaf bŵer Didcot ddymchwel wedi cael ei atal.

Mae gweithwyr wedi bod yn chwilio’r rwbel yn Swydd Rhydychen ers i’r adeilad gwympo ar 23 Chwefror ond yn ôl perchenogion y safle, RWE npower, maen nhw bellach wedi cyrraedd safle sy’n rhy beryglus i barhau gyda’r chwilio.

Mae cynlluniau ar y gweill fel bod y chwilio yn gallu ail-ddechrau “mor gyflym ac mor ddiogel ag sy’n bosib” meddai llefarydd.

Y bwriad yw dod o hyd i gyrff y gweithwyr Chris Huxtable, 34, o Abertawe, Ken Cresswell, 57, a John Shaw, 61, y ddau o Rotherham yn ne Swydd Efrog, sydd wedi bod ar goll ers y digwyddiad.

Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn “deall bod yr amser mae’n ei gymryd i ddod o hyd i’r dynion yn peri loes i’w teuluoedd ac rydym mewn cysylltiad â nhw. Ein blaenoriaeth yw dod o hyd i’w hanwyliaid mor fuan ac mor ddiogel â phosib.”

Cafodd gorsaf bŵer Didcot ei chau yn 2013 ac roedd yn y broses o gael ei dymchwel pan ddigwyddodd y ddamwain.