Philip Lloyd Evans (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth i leoli dyn, 63 oed, sydd ar goll o ardal Bae Colwyn.

Cafodd Philip Lloyd Evans ei weld diwethaf yn gadael archfarchnad Tesco yng Nghyffordd Llandudno ychydig wedi 1.30pm ddydd Llun, Mai 23.

Dyw ei deulu na’i ffrindiau ddim wedi clywed wrtho ers dydd Llun, ac maen nhw gynyddol bryderus am ei les.

Apelio am wybodaeth

Mae ymdrechion yr heddlu i ddod o hyd iddo wedi bod yn aflwyddiannus hyd yn hyn, ac mae’r swyddogion yn canolbwyntio eu hymchwiliadau ar yr ardal leol a hefyd Betws-y-Coed, ardal mae’r gŵr yn dueddol o ymweld â hi yn aml.

Yn ôl yr heddwas Kelly-Smith o orsaf yr Heddlu Llandudno, mae’r gŵr tua 5’6 – 5’8 o daldra ac mae ganddo wallt sy’n moeli, barf ac mae’n gwisgo sbectol.

Mae’r gŵr yn gyrru car MG coch gyda’r rhif cofrestru UMJ9 28W.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad Philip Lloyd Evans, neu wedi’i weld, i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Daclo’r Taclau gan ddyfynnu’r cyfeirnod 15580.