Llun: PA
Daeth cadarnhad heddiw y bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn teithio i Mumbai yn India heno er mwyn cynnal trafodaethau â phenaethiaid cwmni dur Tata.

Daw hyn ddiwrnod wedi’r dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau ar gyfer prynu safleoedd cwmni dur Tata yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys y safle mwyaf, Port Talbot, lle mae 4,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi.

Mae saith prynwr posib wedi dangos diddordeb gan gyflwyno cais swyddogol, ac ymhlith y rheiny mae’r cwmni o Brydain Liberty Steel, a’r grŵp o reolwyr a gweithwyr Tata – Excalibur.

Er eu bod wedi cyflwyno ceisiadau ar wahân, mae adroddiadau’n honni bod y ddau gwmni wedi bod mewn trafodaethau â’i gilydd.

Fe fydd Carwyn Jones yn hedfan i Mumbai heno yn dilyn cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd.

Yn ogystal, fe fydd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Sajid Javid, yn teithio yno hefyd, wedi i’r llywodraeth honno ymrwymo i gyfrannu 25% i brynu’r safleoedd.