Mae Cymru’n derbyn £245 miliwn yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd nag y mae’n ei dalu i mewn, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Yn 2014, roedd hynny’n golygu budd cyffredinol i Gymru o tua £79 y pen.

Daw’r adroddiad hwn wrth i’r ganolfan ymchwilio i oblygiadau aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gyllid cyhoeddus – am ei fod yn un o bynciau trafod mwyaf y grwpiau ymgyrchu ar gyfer y refferendwm ar Fehefin 23.

Mae’r dadansoddiad hefyd yn amlygu gwahaniaeth sylweddol rhwng sefyllfa Cymru â gweddill y Deyrnas Unedig, gyda chyfraniad net y Deyrnas Unedig gyfan yn cyfateb i £151 y pen, o gymharu â £79 y pen i Gymru yn 2014.

Er hyn, mae’r ganolfan yn pwysleisio nad yw’r ffigwr yn adlewyrchu’r ystyriaethau ehangach economaidd neu fasnach sydd yn gysylltiedig ag aelodaeth o’r Farchnad Sengl.

‘Gwahaniaethau sylweddol’

Prif ganfyddiad yr adroddiad, yn ôl Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yw bod “gwahaniaethau sylweddol” o ran effaith yr Undeb Ewropeaidd ar wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig.

“Mae sefyllfa Cymru’n wahanol iawn i’r hyn a geir yn yr Alban a Lloegr gan ei bod yn fuddiolwr net, yn bennaf am fod Cymru’n derbyn cyllid sylweddol o raglenni rhanbarthol ac amaethyddol yr UE,” ychwanegodd Ed Poole.

Er hyn, un o’r dadleuon tros adael yw y gallai’r arian sy’n cael ei dalu fel aelodaeth ar hyn o bryd gael ei ddefnyddio yn lle’r cyllid sy’n cael ei sianelu drwy raglenni’r UE.

Ond, yn ôl Ed Poole, “nid oes unrhyw warant na fyddai unrhyw ofod cyllidol a fyddai’n cael ei greu drwy dynnu allan o’r UE yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny ar flaenoriaethau eraill llywodraeth y DG fel toriadau treth neu leihau dyled.”

Ychwanegodd Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod sefyllfa Cymru fel “buddiolwr net o’r UE yn golygu y gallai canlyniad y bleidlais gael effaith o bwys ar economi a chyllid cyhoeddus Cymru yn y dyfodol.”

Gadael – ‘y dewis mwyaf diogel’

Ond mae Vote Leave, sydd o blaid gadael yr UE, wedi dweud nad ydyn nhw’n cydnabod y ffigurau.

Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran yr ymgyrch i adael fod yr adroddiad wedi “anwybyddu un ffaith hollbwysig” gan ychwanegu “nad oes y fath beth ag arian yr Undeb Ewropeaidd (UE).”

Dywedodd y byddai Cymru “ar eu hennill yn ariannol” o adael yr UE.

“Ar hyn o bryd, mae’r DU yn gwario £10 biliwn y flwyddyn yn fwy na mae’n ei dderbyn o gyllid yr UE, a byddai gan Gymru’r hawl i gyfran o’r rhandaliad hwnnw os ydyn ni’n pleidleisio i adael.”

Ychwanegodd hefyd nad oes sicrwydd am ddyfodol cyllid Cymru gan yr UE wedi 2020.

“Dyna pam y dewis mwyaf diogel yw pleidleisio i adael,” meddai gan ddweud y dylid gwario’r arian ar flaenoriaethau “fel y Gwasanaeth Iechyd, ysgolion a chartrefi.”

Yn ogystal, dywedodd y byddai gan y DU rwydd-hynt ar ôl gadael i arwyddo cytundebau masnach gyda phartneriaid ar draws y byd, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd ei hun.