Amy Wadge ac Ed Sheeran yn y Grammys 2016 (Llun o wefan y Grammys)
Fe fydd cantores sydd â chysylltiadau â Bryste a Phontypridd yn camu i ben Pont Hafren fis nesaf  i ganu cân y mae wedi’i chyfansoddi i nodi hanner canrif ers adeiladu’r bont.

Enillodd Amy Wadge wobr Grammy eleni am gyfansoddi’r gân ‘Thinking Out Loud’ gydag Ed Sheeran, ac mae’n enedigol o Fryste ond yn byw ym Mhontypridd bellach.

Ar Fehefin 3, fe fydd hi’n dringo 80 metr i ben y bont er mwyn canu ei chân newydd, gyda chefnogaeth gan gôr Renewal Gospel Bryste, côr cymunedol Gospel Generation ac Only Men Aloud.

“Gyda’i chalon yn y ddau le, yng Nghymru ac yn Lloegr, mae’r prosiect yn un sy’n agos iawn at galon Amy ac mae Only Men Aloud, Renewal a Gospel Generation yn edrych ymlaen at roi bywyd i’w geiriau hi,” meddai Steve Austins, Golygydd Radio Wales.

‘Cydweithio’

 

Fel rhan o’r achlysur, fe fydd BBC Cymru a BBC Bryste yn cydweithio wrth gynnal ‘Diwrnod Cerddoriaeth y BBC’, gyda chyfle i glywed perfformiad Amy Wadge ar raglen foreol Mal Pope, BBC Radio Wales.

Esboniodd Steve Austins fod ‘Diwrnod Cerddoriaeth y BBC’ yn ymwneud â chydweithio “ac mae’r bont yn symboleiddio’r ysbryd yna.”

Fe fydd hefyd cyngerdd arbennig dan arweiniad y gohebydd pêl-droed Rob Phillips a’r gyflwynwraig  Eleri Siôn wrth ffarwelio â thîm pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw droi at Bencampwriaeth Ewro 2016. Caiff y gyngerdd ei chynnal yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghaerdydd gyda pherfformiadau gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Mike Peters o’r Alarm, Dionne Bennet o’r band The Earth a seren X-Factor Jay James.

Fe fydd Radio Cymru hefyd yn darlledu perfformiadau artistiaid Gorwelion o Eisteddfod yr Urdd yn ystod y diwrnod, a bydd trefi, pentrefi a dinasoedd ledled y DU yn canu clychau eglwysi, gan gynnwys saith eglwys ac un gadeirlan o Gymru.