Mae arweinydd Plaid Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth Lafur Cymru na allan nhw fod yn “ddi-ildio” yn y Senedd yn dilyn trafodaethau i sicrhau y byddai Carwyn Jones yn cael parhau’n Brif Weinidog.

Roedd Carwyn Jones a Leanne Wood yn gyfartal 29-29 yn dilyn pleidlais i benderfynu pwy fyddai Prif Weinidog Cymru yn y Cynulliad newydd.

Fel rhan o’r trafodaethau hynny, penderfynodd Plaid Cymru dynnu enw Leanne Wood yn ôl ar yr amod y câi rhai o bolisïau’r blaid ystyriaeth gan y llywodraeth.

Fel rhan o’r trafodaethau hynny hefyd, cafodd yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn y Cynulliad, Kirsty Williams swydd yr Ysgrifennydd Addysg yn y Cabinet.

Dywedodd Leanne Wood wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC na fyddai agwedd “ddi-ildio” yn dwyn ffrwyth i’r Llywodraeth Lafur newydd gan eu bod nhw’n ddibynnol ar bleidleisiau’r pleidiau eraill am nad oes ganddyn nhw fwyafrif.

“Mae’r ffordd y gwnaethon nhw geisio pardduo a lluchio baw at Blaid Cymru ar ôl i’r Ceidwadwyr a UKIP bleidleisio o’n plaid ni yn dweud wrthyf fi y byddai’n anodd iawn iddyn nhw edrych am gefnogaeth yr un o’r ddwy blaid yma.”

Dywedodd Leanne Wood y byddai hi’n ystyried faint o gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran gwireddu polisïau Plaid Cymru cyn penderfynu a fyddai’r blaid yn cefnogi Cyllideb y Llywodraeth maes o law.

Ychwanegodd: “Os nad ydyn ni’n gweld cynnydd neu os ydyn ni’n gweld cefnu ar y cytundeb hwnnw, bydd yn rhaid i ni ystyried yn ofalus beth fyddwn ni’n ei wneud o ran pleidleisio ynghylch y Gyllideb.”

Cytundeb

Mae’r meysydd lle cafwyd cytundeb yn cynnwys sefydlu comisiwn isadeiledd newydd a datblygu banc Cymreig.

Mae Plaid Cymru yn dweud y bydd mwy o feddygon teulu, mwy o ofal plant am ddim, mwy o brentisiaethau, mwy o brosiectau i hybu’r economi a gwell mynediad at gyffuriau a thriniaethau newydd dan gynlluniau’r Llywodraeth newydd.

Er eu bod yn hawlio buddugoliaeth dros y meysydd hyn, mae sawl un ohonyn nhw’n feysydd a gafodd gefnogaeth gan y rhan fwyaf o bleidiau’r Cynulliad yn eu maniffestos cyn yr etholiadau ym mis Mai.