Mae parc carafanau ger Llanelli wedi’i gau dros-dro, wedi i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd i ddyfais ffrwydrol ar draeth gerllaw.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud y bydd Parc Gwledig Pen-bre ar gau i’r cyhoedd tan amser cinio, beth bynnag, wrth i arbenigwyr gael eu galw i’r traeth i ddelio gyda’r ddyfais.

Y gred ydi fod y ddyfais wedi cael ei golchi i’r lan gyda’r llanw.