Un o atyniadau Llanelli - Llwybr Arfordir y Mileniwm (llun parth cyhoeddus)
Mae prisiau tai ac eiddo yn nhre’ fawr rata’ Cymru 11 gwaith yn is nag yn ardal ddruta’ Llundain.

Ac mae dwy o drefi Cymru ymhlith y deg tre’ rata’ trwy wledydd Prydain, a does yr un ardal Gymreig yn y deg ucha’.

Yn ôl ffigurau newydd gan gwmni Halifax, Llanelli yw’r ail dre’ rata’ a Chastell Nedd yw’r seithfed.

Llundain v Llanelli

Mae’r arolwg yn cymharu pris fesul metr sgwâr ac mae pob un o’r deg ardal ddruta’ yn Llundain a’r cyffiniau.

  • Ymhlith y deg ardal ddruta’, mae pris metr sgwâr yn amrywio rhwng £6,432 ac £11,321.
  • Y pris yn Llanelli yw £1,028 a £1,065 yng Nghastell Nedd.

Y bwlch yn lledu

Yn ôl cyfarwyddwr morgeisi Halifax, mae pris y metr sgwâr yn ffordd dda o fesur prisiau tai ac eiddo, gyda’r pris ar draws gwledydd Prydain wedi codi 251% yn ystod yr 20 mlynedd diwetha’.

Ond, yn ôl Chris Gowland, mae’r cyfnod hefyd wedi gweld cynnydd mawr yn y bwlch rhwng De a Gogledd a rhwng Llundain a De-ddwyrain Lloegr a’r rhan fwya’ o’r Deyrnas Unedig – mae’r cynnydd yn ardal Llundain wedi body n 432%.

“Mae’r bwlch cyson rhwng de Lloegr, dan arweiniad Llundain a gweddill y wlad tros y ddau ddegawd diwetha’ yn duedd sydd wedi gwreiddio yn ystod y pum mlynedd diwetha’,” meddai.