Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth dyn 73 oed yng Nghwm Ogwr  wedi cyhuddo dyn 49 oed o’i lofruddio.

Mae Andrew Seal, o Gwm Ogwr, wedi’i gyhuddo o lofruddio Gwilym Jones yn  Oxford Court yng Nghwm Ogwr.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio dynes 21 oed.

Mae Heddlu’r De yn parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â symudiadau Gwilym Jones ac Andrew Seal o 8yb ar ddydd Sul, 15 Mai.

“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni ar 101. Mae ein meddyliau gyda theulu Gwilym Jones yn ystod y cyfnod anodd yma,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Rob Cronick.

Fe fydd Andrew Seal yn mynd gerbron Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Gwener, 20 Mai.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111 gan nodi’r cyfeirnod 1600176350.