Mae dau heddwas o Heddlu Dyfed Powys wedi bod gerbron llys ynadon heddiw wedi’u cyhuddo o gamweinyddu bwriadol mewn swydd gyhoeddus.

Cafodd yr achos yn erbyn y ddau – Stephen Greensmyth, 54 oed o Bronwydd, a Rhys Thomas James, 37 oed o Abergwili – ei ddwyn yn dilyn ymchwiliad gan Uned Wrthlygredd yr Heddlu.

Fe ymddangosodd y ddau yn Llys Ynadon Llanelli y bore ‘ma, ac mae’r ddau wedi’i rhydau ar fechnïaeth amodol tan yr achos nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 20 Mehefin.

Mae’r ddau swyddog wedi cael eu gwahardd o’u gwaith “am y tro”, meddai Heddlu Dyfed Powys.

“Mae Heddlu Dyfed Powys yn disgwyl y safonau uchaf gan ein swyddogion a staff, ac fe fydd y camau priodol yn cael eu cymryd i gynnal y safonau hynny,” meddai’r heddlu mewn datganiad.