Awyren EgyptAir, Llun: PA/Andrew Milligan
Roedd dyn o Gymru ar yr awyren sydd wedi plymio i Fôr y Canoldir ger ynys Karpathos yng Ngwlad Groeg, yn ôl adroddiadau.

Mae’r dyn wedi cael ei enwi’n lleol fel Richard Osman, 40, a oedd yn dod o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ar Twitter prynhawn ma: “Trist iawn clywed ei bod yn bosib bod Cymro ymhlith dioddefwyr trychineb EgyptAir. Mae fy swyddogion yn cydgysylltu â’r Swyddfa Dramor.”

Roedd yr awyren yn teithio rhwng Paris a Cairo pan ddiflannodd oddi ar y radar gyda 66 o bobl ar ei bwrdd.

Roedd yr awyren yng ngofod awyr yr Aifft pan ddiflannodd tua 2.30yb (amser Cairo) ar ôl gadael maes awyr Charles de Gaulle ym Mharis dair awr yn gynharach.

Fe blymiodd yr awyren i’r môr ger ynys Karpathos, sydd tua 50 milltir i’r dwyrain o ynys Creta.

Mae gweddillion yr awyren, wedi cael eu darganfod yn y dŵr meddai swyddogion EgyptAir.

Dywedodd Panos Kammenos, Gweinidog Amddiffyn Gwlad Groeg, bod yr awyren wedi gwneud cyfres o droadau sydyn a phlymio miloedd o droedfeddi drwy’r awyr cyn diflannu.

Dywedodd Swyddfa Dramor y DU ei fod yn gweithio gydag awdurdodau’r Aifft a Ffrainc a bod eu staff mewn cysylltiad â theulu’r person o’r DU oedd ar fwrdd yr awyren.

Ymosodiad brawychol yn ‘bosibilrwydd’

Yn y cyfamser mae gweinidog hedfan sifil yr Aifft yn dweud bod ’na bosibilrwydd mai ymosodiad brawychol oedd yn gyfrifol am y ddamwain yn hytrach na methiannau technegol.

Dywedodd Sherif Fathi nad oedd eisiau gwneud damcaniaethau ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd i’r awyren ond bod ymosodiad brawychol yn “bosibilrwydd.”

Roedd 56 o deithwyr ar fwrdd awyren MS804 gan gynnwys plentyn a dau fabi, ynghyd a thri swyddog diogelwch EgyptAir a saith aelod o’r criw.

Dywedodd EgyptAir bod y teithwyr yn cynnwys 30 o bobl o’r Aifft, 15 o Ffrancwyr, dau o Irac ac un yr un o’r DU, Swdan, Chad, Portiwgal, Algeria, Canada, Gwlad Belg, Kuwait a Saudi Arabia.

Yn ôl adroddiadau, nid oedd y peilot wedi gwneud galwad brys cyn i’r awyren ddiflannu yn gynnar fore Iau.

Mae rhai o deuluoedd y teithwyr oedd ar yr awyren wedi cyrraedd safle ger maes awyr Cairo ac yn cael cymorth gan staff EgyptAir.

Mae’r cwmni awyrennau wedi sefydlu llinell ffon arbennig ar gyfer teuluoedd sy’n bryderus am eu hanwyliaid. Y rhif yw + 202 25989320 i bobl sy’n ffonio y tu allan i’r Aifft.