Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn
Mae Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016 wedi’i chyhoeddi.

Yn eu plith mae llyfrau newydd rhai o awduron mwyaf poblogaidd Cymru, fel Mererid Hopwood a Caryl Lewis, gydag ambell i enw newydd fan hyn a fan draw.

Naw cyfrol Cymraeg a naw cyfrol Saesneg sydd ar y rhestr ac mae tri chategori ar gyfer cyfrolau barddoniaeth, gwaith ffuglen a llyfrau ffeithiol greadigol, gyda thri llyfr ym mhob categori.

£1,000 fydd yn cael ei rhoi i enillydd pob categori, a’r prif enillydd yn y ddwy iaith yn cael £3,000 yr un yn y seremoni fawr ym Merthyr Tudful, nos Iau, 21 Gorffennaf, lle fydd Gwobr Barn y Bobol hefyd yn cael ei chyflwyno.

Bydd yr enillwyr hefyd yn derbyn tlws sydd wedi’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Dyma’r rhestr fer lawn:

Gwobr Farddoniaeth Prifysgol Aberystwyth

Nes Draw, Mererid Hopwood (Gomer)

Hel llus yn y glaw, Gruffudd Owen (Cyhoeddiadau Barddas)

Eiliadau Tragwyddol, Cen Williams (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Ffuglen

Norte, Jon Gower (Gomer)

Y Bwthyn, Caryl Lewis (Y Lolfa)

Rifiera Reu, Dewi Prysor (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol y Brifysgol Agored yng Nghymru

Pam Na Fu Cymru, Simon Brooks (Gwasg Prifysgol Cymru)

Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr, Gruffydd Aled Williams (Y Lolfa)

Is-deitla’n Unig, Emyr Glyn Williams (Gomer)

Beirniad y llyfrau Cymraeg eleni yw’r awdur Lleucu Roberts; y bardd a darlithydd Llion Pryderi Roberts, a chyflwynydd BBC Radio Cymru a Radio 1 Huw Stephens, sydd wedi torri’r rhestr i lawr o’r tua hanner cant o lyfrau ddaeth i’r rhestr hir.

“Bu darllen y llyfrau a gyflwynwyd yn dasg bleserus dros ben ac yn agoriad llygad – cyfrolau sy’n tanio’r synhwyrau a’r chwilfrydedd, sy’n synnu a swyno, sy’n addysgu a difyrru fel ei gilydd,” meddai Llion Pryderi Roberts.

“Rhwng eu cloriau ceir myrdd o destunau, cymeriadau ac ymdriniaethau, ynghyd â’r gallu dychmygus sy’n nodweddu llenyddiaeth y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain. Tasg anos o’r hanner oedd dethol naw cyfrol yn unig o’u plith.”

Y llyfrau Saesneg

Beirniaid y llyfrau Saesneg eleni yw’r darlithydd Tony Brown, golygydd gyda The Bookseller, Caroline Sanderson, a Chyfarwyddwr Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru Justin Albert.

Dyma restr fer y llyfrau Saesneg:

Gwobr Farddoniaeth Saesneg Roland Mathias

Love Songs of Carbon, Philip Gross (Bloodaxe Books)

Boy Running, Paul Henry (Seren)

Pattern beyond Chance, Stephen Payne (HappenStance Press)

Gwobr Ffuglen Saesneg Ymddiriedolaeth Rhys Davies

The Girl in the Red Coat, Kate Hamer (Faber & Faber)

We Don’t Know What We’re Doing, Thomas Morris (Faber & Faber)

I Saw a Man, Owen Sheers (Faber & Faber)

Gwobr Ffeithiol Greadigol Saesneg Y Brifysgol Agored Yng Nghymru

Losing Israel, Jasmine Donahaye (Seren)

Woman Who Brings the Rain, Eluned Gramich (New Welsh Rarebyte)

Wales Unchained, Daniel G. Williams (University of Wales Press)

Llenyddiaeth yng Nghymru yn dal i blesio

“Mae’r detholiad o lyfrau sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer eleni mor amrywiol â’r awduron a’u cyfansoddodd, gan brofi pa mor gyfoethog yw llenyddiaeth y Gymru gyfoes,” meddai Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn.

“Rydym yn hynod falch fod Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn llwyddo i hyrwyddo’r cyfoeth a’r amrywiaeth hwnnw a dangos ein bod yn parhau i wneud ein marc ar fap llenyddol y byd.”

Barn y Bobol

Bydd Gwobr Barn y Bobol yn cael ei chyhoeddi yn y seremoni, gyda’r bleidlais dros y llyfrau Cymraeg yn cael ei chynnal isod ar Golwg360, a’r wobr wedi’i chreu gan fyfyrwyr Adran Gelf Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Bydd modd pleidleisio dros eich hoff lyfr Saesneg ar wefan y Wales Arts Review.

Gallwch brynu tocyn i’r Seremoni  yn The Redhouse, Merthyr Tudful ar 21 Gorffennaf am £5 drwy gysylltu â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org