Bydd dau swyddog o Heddlu Dyfed Powys yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau ar ôl cael eu cyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Cafodd yr achos yn erbyn y ddau ei ddwyn yn dilyn ymchwiliad gan yr Uned Wrthlygredd.

Ond gwrthododd yr heddlu â rhoi unrhyw fanylion pellach, gan ddweud y byddai rhagor yn cael ei ddatgelu yn yr achos llys.

“Mae’r swyddogion wedi cael eu gwahardd am y tro,” meddai datganiad gan Heddlu Dyfed Powys.

“Mae Heddlu Dyfed Powys yn disgwyl y safonau uchaf gan ein swyddogion a staff, ac fe fydd y camau priodol yn cael eu cymryd i gynnal y safonau hynny.”