Simon Thomas AC
Mae’r trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru wedi bod yn llwyddiant i’r wrthblaid medd AC, a fydd yn golygu mwy o gydweithio rhyngddyn nhw a Llafur.
Cafodd Plaid Cymru gefnogaeth gan Lafur i rai o’i phrif bolisïau yn dilyn trafodaethau helaeth drwy gydol yr wythnos ddiwethaf.
Ac yn dilyn hyn, mae Plaid Cymru yn dweud y bydd pump o’i haddewidion allweddol yn cael eu cyflawni dan y Llywodraeth newydd.
Yn ôl y datganiad ar y cyd cafwyd gan y cenedlaetholwyr a Llafur – sydd wedi sefydlu llywodraeth leiafrifol, mae hyn yn cynnwys sefydlu comisiwn isadeiledd newydd a datblygu banc Cymreig.
Mae Plaid Cymru yn dweud y bydd mwy o feddygon teulu, mwy o ofal plant am ddim, mwy o brentisiaethau, mwy o brosiectau i hybu’r economi a gwell mynediad at gyffuriau a thriniaethau newydd dan gynlluniau’r Llywodraeth newydd.
Er bod y Blaid yn hawlio buddugoliaeth dros y meysydd hyn, mae sawl un ohonynt yn feysydd a gafodd gefnogaeth gan y rhan fwyaf o bleidiau’r Cynulliad yn eu maniffestos cyn yr etholiadau ym mis Mai.
“Gwrthblaid fwyaf llwyddiannus”
Mae’r trafodaethau, serch hynny, yn llwyddiant i Blaid Cymru, meddai Simon Thomas AC, sy’n dweud mai’r rhain a lwyddodd i roi’r polisïau ar y bwrdd.
“O ganlyniad i drafodaethau Plaid Cymru, bydd yn rhwyddach i gleifion fynd at feddyg teulu a chael triniaethau newydd ac arloesol,” meddai.
“Fe gaiff rhieni fwy o ofal plant, fydd yn arbed rhyw £100 yr wythnos iddynt. Ym mhob rhan o Gymru, rwy’n disgwyl gweld prosiectau seilwaith i wella ein ffyrdd a’n rheilffyrdd, a gall mwy o bobl gael hyfforddiant mewn sgiliau trwy brentisiaethau.
“Mewn cwta wythnos mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwir ganlyniadau i bobl. Ni yw’r wrthblaid fwyaf llwyddiannus yn hanes y Cynulliad.”
‘Cydweithio ond dim clymbleidio’
Sail y cytundeb rhwng y ddwy blaid – Symud Cymru Ymlaen, yw sefydlu “tri phwyllgor cyswllt” rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, ym meysydd cyllid, deddfwriaeth a’r cyfansoddiad.
Ond dydy hyn ddim yn “gyfystyr â chlymblaid” rhwng Plaid Cymru a Llafur.
Yn ôl y datganiad: “Bydd hyn yn caniatáu cydweithio ffurfiol ar flaenoriaethau’r dyfodol. Serch hyn, nid yw’n gyfystyr a chlymblaid, na threfniant hyder a darpariaeth ac mae gan y ddwy blaid yr hawl i gytuno i anghytuno.”
Mae disgwyl y bydd Aelodau Cynulliad yn ail-ethol Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru heddiw, a fydd yn caniatáu iddo ffurfio Llywodraeth Lafur leiafrifol.