Carwyn Jones a Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi sicrhau cefnogaeth gan Lafur i rai o’i phrif bolisïau, yn dilyn trafodaethau helaeth dros yr wythnos ddiwethaf rhwng y ddwy blaid.

Mewn datganiad ar y cyd, cafwyd cadarnhad y bydd Llywodraeth newydd Cymru yn cynnwys sefydlu Comisiwn Isadeiledd a banc datblygu Cymreig – rhai o bolisïau’r Blaid yn ei hymgyrch etholiadol.

A bydd y llywodraeth leiafrifol Lafur yn blaenoriaethu rhai o bolisïau’r pleidiau eraill yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf wrth y llyw, sy’n cynnwys prentisiaethau o bob oed, cân y Ceidwadwyr Cymreig.

Sail y cytundeb – Symud Cymru Ymlaen, yw sefydlu  “tri phwyllgor cyswllt” rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, ym meysydd cyllid, deddfwriaeth a’r cyfansoddiad.

Ond dydy hyn ddim yn “gyfystyr â chlymblaid” rhwng Plaid Cymru a Llafur.

Yn ôl y datganiad: “Bydd hyn yn caniatáu cydweithio ffurfiol ar flaenoriaethau’r dyfodol. Serch hyn, nid yw’n gyfystyr a chlymblaid, na threfniant hyder a darpariaeth ac mae gan y ddwy blaid yr hawl i gytuno i anghytuno.

Cynulliad ‘mwy agored a democrataidd’

Mae’r ddwy blaid wedi cytuno i gyflwyno cynlluniau i ail-strwythuro’r broses craffu a phwyllgora i “adlewyrchu cyfrifoldebau Seneddol y sefydliad yn well.”

“Credwn y gall y Pumed Cynulliad fod yn fwy agored, tryloyw a democrataidd a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni’r amcan hwnnw,” meddai’r datganiad.

Polisïau i ‘ddenu cefnogaeth’ pleidiau

Yng nghyfarfod llawn y Cynulliad heddiw, ers yr helbul diweddar yn y siambr, bydd y Llywodraeth newydd yn nodi ei blaenoriaethau – polisïau “sy’n denu cefnogaeth gan fwyafrif y Cynulliad”.

Yn ogystal â phrentisiaethau i bob oed, mae’r rhain yn cynnwys gofal plant, gwaith ar Gronfa Triniaeth Newydd i’r Gwasanaeth Iechyd a chynllun i gynyddu nifer y meddygon a gweithwyr gofal iechyd cynradd.

Mae hyn oll, meddai’r datganiad, “yn cynrychioli agwedd fydd yn sicrhau cefnogaeth y mwyafrif o bobl yng Nghymru.”

Ychwanegodd y bydd y ddwy blaid, Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn cydweithio i sicrhau pleidlais dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ar 23 Mehefin.

Cefndir

Cafodd trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru eu cynnal ar ôl i Carwyn Jones, arweinydd Llafur, fethu â sicrhau cael ei ail-ethol yn Brif Weinidog yn y siambr wythnos ddiwethaf.

Ar ôl i Blaid Cymru enwebu eu harweinydd nhw, Leanne Wood, cafodd y ddau ymgeisydd bleidlais gyfartal, ar ôl i aelodau Ceidwadol a UKIP y Cynulliad roi eu pleidlais iddi hi.

Yn dilyn y trafodaethau ddydd Mawrth bydd Aelodau Cynulliad yn cyfarfod heddiw i ethol Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru, gan sefydlu ‘Gweinyddiaeth Lafur Leiafrifol’.