Arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole
Mae Cyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi heddiw y bydd ysgol gynradd Rhys Pritchard yn Llanymddyfri yn symud i gartref newydd – a hynny ar safle ysgol uwchradd Llanymddyfri, sef Pantycelyn, sydd newydd gau.

Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Pantycelyn bellach wedi’u hailgartrefu ar safle newydd Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo.

Fe benderfynodd Bwrdd Gweithredol y Cyngor y dylai safle Pantycelyn gael ei adnewyddu ar gyfer dibenion Ysgol gynradd Rhys Pritchard – gyda safle presennol yr ysgol honno’n cael ei gwerthu.

Cam ‘cadarnhaol’

Esboniodd Arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole, fod gan safle Pantycelyn fwy o adnoddau i’w cynnig, gan gynnwys dosbarthiadau mwy, neuadd a chae chwarae.

“Fe wnaethon ni gais am adroddiad ffurfiol gan swyddogion, a dy’n ni nawr wedi ystyried ac wedi cytuno y dylid parhau â’r broses o symud ysgol Rhys Pritchard i Ysgol Pantycelyn wedi’i adnewyddu’n rhannol,” meddai’r Cynghorydd.

Ychwanegodd y bydd swyddogion y cyngor yn cyfarfod â chynrychiolwyr o’r ysgol a’r gymuned leol i drafod y safle a’r gwaith adnewyddu.

“Mae symud Ysgol Rhys Pritchard i safle Pantycelyn yn rhywbeth cadarnhaol ac yn darparu safle ac adnoddau gwell i’r disgyblion,” meddai’r Cynghorydd Gareth Jones, Aelod tros Addysg ar y Bwrdd Gweithredol.

Ychwanegodd fod y cynllun yn rhan o Raglen Moderneiddio Addysg y Cyngor Sir, sydd eisoes wedi buddsoddi mwy na £200million mewn ysgolion ar draws Sir Gâr.

Mae hyn yn cynnwys dwy ysgol uwchradd newydd, wyth ysgol gynradd a thua 40 o brosiectau adnewyddu gwahanol.