Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi dod i ddealltwriaeth ac fe fydd hynny'n caniatau i Carwyn Jones gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog fory (llun: PA)
Bydd Aelodau Cynulliad yn cyfarfod fory i ethol Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru, gan sefydlu ‘Gweinyddiaeth Lafur Leiafrifol’.

Dyna y mae datganiad ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llafur yn ei ddweud, yn dilyn “trafodaethau cadarnhaol ac adeiladol” rhwng y ddwy blaid.

Mae disgwyl nawr y bydd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, yn ail-alw’r Cynulliad ar gyfer cyfarfod llawn ddydd Mercher.

Mewn datganiad “terfynol” ar y mater, dan y teitl, ‘Symud Cymru Ymlaen’, dywedodd y ddwy blaid y bydd Prif Weinidog Cymru yn amlinellu bwriad y Llywodraeth nesaf ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf fory.

Bydd hyn yn cynnwys “ymrwymiad” y Llywodraeth i “flaenoriaethu’r meysydd hynny sy’n denu cefnogaeth gan fwyafrif y Cynulliad.”

Yn y cyfamser, mae adroddiadau, sydd heb eu cadarnhau, bod UKIP yn bwriadu cynnig ymgeisydd ar gyfer y Prif Weinidog.

Cefndir

Mae trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru wedi bod yn digwydd ers bron i wythnos erbyn hyn ar ôl i Carwyn Jones, arweinydd Llafur, fethu â sicrhau cael ei ail-ethol yn Brif Weinidog yn y siambr.

Ar ôl i Blaid Cymru enwebu eu harweinydd nhw, Leanne Wood, cafodd y ddau ymgeisydd bleidlais gyfartal, ar ôl i aelodau Ceidwadol a UKIP y Cynulliad roi eu pleidlais iddi hi.

‘Diffyg uchelgais’

Ond mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad, gan gyhuddo Plaid Cymru o “daro bargen glyd â’i hen ffrindiau yn y Blaid Lafur.”

“Dyddiau yn unig yn ôl, roedd Arweinydd Plaid Cymru yn honni nad oedd yn gallu gweld sut gall Cymru symud ymlaen gyda’r un blaid mewn grym ar ôl 17 mlynedd o’r un peth,” meddai.

“Yn wir, roedd llai na 16% o bobol yng Nghymru wedi pleidleisio dros yr un hen drefn.

“Fodd bynnag, mae Plaid Cymru wedi dangos diffyg awydd ac uchelgais i ystyried math newydd o wleidyddiaeth gydweithredol.

“Mae’r holl beth yn amlwg yn dangos mai’r Ceidwadwyr Cymreig yw’r unig ddewis gwahanol i Lafur. Rydym yn sefyll yn barod i gynnig craffu cadarn, adeiladol a manwl i’r weinyddiaeth Lafur leiafrifol hon, a’i chynorthwywyr ym Mhlaid Cymru.”