Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n cynnig dewis ehangach o raglenni i’w gwrandawyr ar blatfformau digidol ac ar-lein am gyfnod penodol yn yr hydref.

Am dri mis yn ystod boreau’r wythnos waith, fe fydd modd gwrando ar raglenni ychwanegol ar wefan yr orsaf, ar iPlayer neu ar radio DAB yn y de ddwyrain.

Er hyn, fe fydd y rhaglenni arferol hefyd yn cadw at amserlen wreiddiol y brif orsaf ar FM a DAB.

Ond, mae mudiad iaith wedi galw ar y BBC i wneud y trefniant hwn yn un parhaol, gan ddweud na all un orsaf fod yn “bopeth i bawb.”

‘Rhagor o amrywiaeth’

Dywedodd Curon Davies ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eu bod yn croesawu’r cyhoeddiad gan fod “angen rhagor o gynnwys digidol amrywiol yn y Gymraeg, ar gyfer pobl ifanc yn enwedig.

“Gall un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yn golygu y bydd rhagor o amrywiaeth.

“Yn sicr, byddwn ni’n galw ar benaethiaid y BBC i wneud yr arbrawf yma yn un parhaol a’i ddatblygu’n bellach fel bod y Gymraeg i’w chlywed ar bob un platfform.”

Pwysig ‘arloesi’

Mae’r cynllun yn rhan o becyn o ddatblygiadau gan Radio Cymru – a hynny wrth i’r orsaf ystyried ffyrdd i ddatblygu ac arloesi wrth edrych ymlaen at eu pen-blwydd yn ddeugain oed y flwyddyn nesaf.

“Does dim dwywaith fod ’na gyffro ar drothwy’r pen-blwydd mawr yn ddeugain oed,” meddai Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru.

“Ac wrth i’r platfformau digidol ddatblygu, mae’n bwysig fod Radio Cymru yn manteisio ac arloesi,” meddai.

Pwysleisiodd mai arbrawf dros dro fydd y cynllun, ond wedi’r tri mis, “fe fyddwn yn ystyried y camau nesaf yng ngoleuni’r peilot, datblygiadau technegol a realiti ariannol BBC Cymru”.

‘Cyfnod heriol’

Mae’r pecyn o ddatblygiadau digidol hefyd yn cynnwys creu gofod ar-lein i gynulleidfa C2, ynghyd â chydweithio â phartneriaid i feithrin lleisiau a sgiliau newydd.

“Mae’n fwriad gennym hefyd i arbrofi gyda nifer o syniadau yn ystod y cyfnod yma gan gynnwys creu partneriaethau newydd gyda Phrosiect 15 a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i feithrin lleisiau all gyflwyno safbwyntiau newydd i’r orsaf yn ogystal ag adeiladu ar ein perthynas gyda chriw Cyw S4C yn sgil llwyddiant Stori Tic Toc,” meddai Betsan Powys.

“Felly, mae hi’n mynd i fod yn gyfnod prysur a heriol ond un a fydd, gobeithio, yn dod â mwy o gynnwys diddorol i’r gwrandawyr.”

Dyfodol i’r Iaith yn croesawu

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad – mae’r mudiad wedi bod yn pwyso am ystod ehangach o wasanaethau i Gymry Cymraeg a dysgwyr.

Mewn datganaid dywedodd Dyfodol i’r Iaith bod y cyhoeddiad heddiw’n “gam sylweddol tuag at ddiwallu tri o ofynion maniffesto Dyfodol, sef datblygu dwy orsaf radio Gymraeg, manteisio i’r eithaf ar gyfryngau electronig, a darparu’n effeithiol i bob oed a diddordeb.”

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: “Dyma newyddion gwych. Rydym yn falch iawn o glywed bod Radio Cymru yn dathlu ei ben-blwydd drwy edrych ymlaen at y dyfodol, drwy arloesi a chynnig mwy o ddewis i wrandawyr a defnyddwyr y gwasanaeth.

“Dymunwn bob llwyddiant i’r fenter newydd, ac edrychwn ymlaen at gynnyrch creadigol a chyffrous dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”