Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad a ddigwyddodd neithiwr ym Mhontycymer ger Caerffili.

Digwyddodd y ddamwain rhwng cerddwr a char Vauxhall Corsa arian ychydig wedi hanner nos, nos Sul Mai 15, ar Heol Rhisga ger Coleg Pontycymer.

Cafodd cerddwr 24 oed o ardal Glyn Ebwy ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent gydag anafiadau difrifol i’w goes, ac mae’n parhau mewn cyflwr sefydlog.

Mae dyn 20 oed o’r Coed Duon a llanc 16 oed o Risga wedi’u harestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus gan achosi niwed difrifol, methu â stopio mewn gwrthdrawiad traffig a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae’r ddau wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â’r achos gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod, 8 15/05/16.