Cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016 y llynedd
Bydd prif wobrau Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint, sef y Gadair a’r Goron yn cael eu cyflwyno’n swyddogol i’r trefnwyr yr wythnos hon.

Dau grefftwr sy’n wreiddiol o Loegr sydd wedi creu’r gweithiau, sy’n cynrychioli afonydd, tiroedd a phont nodweddiadol yr ardal.

Mae’r Gadair, sy’n cael ei rhoi i’r gerdd gaeth neu rydd orau, wedi ei chreu eleni gan y saer coed Neil Wyn Jones. Mae’n diwtor iaith Gymraeg gyda Phrifysgol Bangor a Choleg Cambria ac yn gwneud ei waith coed yn ystod gwyliau’r coleg neu ar benwythnosau. Mae’r gadair wedi’i gwneud yn bennaf o bren onnen.

Yn rhedeg i lawr ei chefn, mae stribedi o ddur i gynrychioli afon Alun ac afon Dyfrdwy a siâp Moel Famau i’w gweld ar ei brig.

Mae logo’r Urdd ar y gwaith hefyd, yn arian, copr coch a chopr wedi ei ocsideiddio a dylanwad pont drawiadol Sir y Fflint, sydd hefyd yn ysbrydoliaeth i’r Goron.

Andrew Coomber, sydd wedi creu cwpan cymun i’r Pab yn y gorffennol, yw crefftwr y benwisg eleni.

Mae wedi’i chreu allan o acrylig clir a dur gloyw, gyda rhai darnau acrylig wedi’u lliwio yn las i gynrychioli’r afonydd ac yn wyrdd i adlewyrchu’r tir.

Bydd y gadair yn cael ei rhoi i awdur y gerdd gaeth neu rydd orau yn y gystadleuaeth a bydd y Goron yn cael ei rhoi am ysgrifennu’r darn neu ddarnau o ryddiaith gorau dros 4,000 o eiriau.

Cadair “ysgafn a golau o ran ei golwg”

Er i Neil Wyn Jones gael ei fagu yng Nghilgwri, ac yn dal i fyw yno, mae’n siarad Cymraeg yn rhugl ar ôl penderfynu dysgu’r iaith pan oedd yn 40 oed.

“Mae cynllun y gadair yn eithaf syml, ac yn adlewyrchu sut ydw i yn hoffi gweithio gyda phren.  Rwyf wedi defnyddio coed onnen ac ychydig o sycamor, gan ei chadw yn ysgafn a golau o ran ei golwg,” meddai.

“Rwyf yn edrych ymlaen at ei gweld ar y llwyfan a beth sy’n braf am yr Urdd yw y gallaf fod yn siŵr mai rhywun ifanc fydd yn ei hennill!”

Coron ‘wahanol’ sydd ond yn cyffwrdd y pen

Cafodd Andrew Coomber ei fagu ym Manceinion ond symudodd i Sir y Fflint yn yr 1980au i sefydlu cwrs gradd celf a dylunio, ac yna’r cwrs meistr, ym Mhrifysgol NEWI (Prifysgol Glyndŵr bellach).

Mae bellach yn byw yn Ysgeifiog ger Treffynnon, lle mae ei stiwdio heddiw.

“Mi wnes i dderbyn y cynnig i wneud y goron gan mai mudiad ieuenctid yw’r Urdd, a theimlwn y byddwn yn gallu gwneud rhywbeth cyfoes, perthnasol i bobl ifanc.  Dyna pam y gwnes i greu dyluniad abstract a dwi’n hapus iawn mod i wedi llwyddo i greu rhywbeth mor wahanol.

“Doeddwn i ddim eisiau gwneud coron gyda band traddodiadol felly fe wnes i greu coron oedd ond yn cyffwrdd y pen – rhywbeth modern, gwahanol.  Mae’r dur yn rhoi ychydig o sglein iddi ac rwyf wedi defnyddio siâp y gorwel o Lannau Merswy yn edrych draw am Fflint a ffordd groes.”

Bydd y Gadair a’r Goron yn cael eu cyflwyno i’r Urdd am 6:45yh nos Iau, 19 Mai yn Ysgol Gwynedd, Fflint.