Neil Kinnock
Mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur, yr Arglwydd Kinnock, wedi cyhoeddi y bydd yn ymgyrchu tros i wledydd Prydain aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd pleidleiswyr yn cael y cyfle i fotio mewn refferendwm ar y mater ar Fehefin 23, ac mae Neil Kinnock wedi ymrwymo i gefnogi grwp ymgyrchwyr ‘Wales Stronger in Europe’ yng Nghaerdydd.

Mae Neil Kinnock wedi treulu dros 20 mlynedd yn rhan o wleidyddiaeth Ewrop, ers cael ei benodi gyntaf yn aelod o’r Comisiwn Ewropeaidd yn 1995. Fe dreuliodd gyfnod yn Gomisiynydd Trafnidiaeth dan y Llywydd Jacques Santer.

Yn ystod ei ail dymor ar y Comisiwn, roedd yn gyfrifol am gyflwyno rheolau staff newydd ar gyfer swyddogion yr Undeb Ewropeaidd – gwaith amhoblogaidd a olygodd doriadau yng nghyflogau gweithwyr.

Fe fu ei wraig, Glenys Kinnock, yn Aelod o Senedd Ewrop rhwng 1994 a 2009.