Mark Isherwood
Mae Aelod Cynulliad o’r gogledd ddwyrain wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i ddod â chynllun ‘Hawl i Brynu’ tai cyngor i ben.

Mae Mark Isherwood, aelod y Blaid Geidwadol Gymreig, yn feirniadol iawn o benderfyniad Sir Ddinbych, a hynny yn dilyn gweithredu tebyg gan awdurdodau lleol Ynys Mon, Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud fod yna ddeg o bobol yn gwneud cais am bob ty cyngor yn y sir, a bod rhoi hawl i unigolion brynu tai cyngor yn “bygwth buddsoddiad mewn tai newydd”. Ond mae Mark Isherwood o’r farn nad oes digon o bobol bellach yn defnyddio’r ‘Hawl i Brynu’ er mwyn cyfiawnhau safbwynt y Cyngor.

“Dw i’n credu fod hyn yn anghywir,” meddai. “Fe fydd cael gwared â’r Hawl i Brynu yn Sir Ddinbych yn amddifadu’r rheiny sydd am brynu eu cartrefi eu hunain, rhag gallu gwneud hynny. Fydd yna chwaith ddim cynnydd mewn tai fforddiadwy o ganlyniad.

“At hynny, dydi’r ddeddf ar hyn o bryd ddim ond yn caniatau i gyngor wahardd ‘Hawl i Brynu’ am gyfnod penodol (pum mlynedd yn yr achos hwn) felly fydd effaith y penderfyniad ddim yn gwneud newid mawr…

“Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig eisoes wedi cyhoeddi nad ydi gwahardd ‘Hawl i Brynu’ ynddo’i hun yn cynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael,” meddai Mark Isherwood wedyn.

“Dim ond taflu llwch i lygad pobol y mae hyn. Dydi o’n gwneud dim i gynyddu nifer y tai sydd ar gael. Mae ystadegau’n dangos mai Cymru ydi’r unig genedl yn y Deyrnas Unedig sydd wedi lleihau nifer y tai newydd yn 2014-15. O gymharu â chynnydd o 7% ledled gwledydd Prydain, mae Cymru ar ei hol hi gyda lleihad o 2%.”