Cafodd Ras yr Iaith 2016 ei lansio ar raglen Heno ar S4C neithiwr. Cynhelir y Ras yr Iaith 2016 dros 3 diwrnod rhwng dydd Mercher a dydd Gwener, Gorffennaf 6–8.

Bwriad y ras yw hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chynyddu ymwybyddiaeth ohoni led-led Cymru, gan ddathlu ei bodolaeth.

Eleni fe fydd y Ras yn dechrau ym Mangor ar Orffennaf 6, gan fynd ymlaen i Bethesda, Betws-y-Coed, Llanrwst, Blaenau Ffestinog, Y Bala, Dolgellau, gan orffen yn y canolbarth ym Machynlleth.

Ar yr ail ddiwrnod, bydd y ras yn teithio trwy’r canolbarth gan ymweld ag Aberystwyth, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron, Ceinewydd, Llandysul, Castellnewydd Emlyn, Aberteifi. Yna, ar y trydydd diwrnod, bydd yn ymweld ag Arberth, Crymych, Dinbych-y-Pysgod, San Clêr, Caerfyrddin, Rhydaman, Brynaman, Llanymddyfri a Llandeilo.