Super Furry Animals
Heddiw mae’r Super Furry Animals wedi cyhoeddi eu cynnyrch cyntaf ers saith mlynedd, sef ‘Bing Bong’.

Mae’r gân newydd yn ddathliad answyddogol o gamp tîm pêl-droed Cymru yn cyrraedd pencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc. Ac mae’r band yn paratoi i chwarae mewn gŵyl yn Rio Loco yn Tolouse  yn Ffrainc fis nesaf hefyd.

Yn ôl prif leisydd y Super Furries Gruff Rhys ”mae’r gân wedi ei hysbrydoli gan gyfuniad o’r idiom werin ‘Bing Bong’, elfennau o gerddi byr fyfyr R.Williams Parry ac ynganu Twiki y robot o’r gyfres wyddonias Americanaidd Buck Rodgers in the 25th Century – nid cân synhwyrol mohoni, ond dathliad lloerig.”

Mewn datganiad ychwanegodd y band:  “Ysgrifennwyd y gân yn wreiddiol ar gyfer dathlu campau tîm pêl-droed Cymru yng nghwpan Ewrop UEFA ym Mhortugal yn 2004 – ond chwalodd gôl Yegor Titov obeithion y Cymry, a chalonau’r Anifeiliaid Blewog yn y gemau ail-gyfle.”

Mae hôll aelodau’r Super Furry Animals yn bresennol ar y recordiad: Huw ‘Bunf’ Bunford (gitar/llais), Cian Ciarán (allweddellau/digidolyddion/llais), Dafydd Ieuan (drymiau/llais) Gruff Rhys (Allweddell Roland/llais digidol) a Guto Pryce (Y Bâs).

Fe fydd ‘Bing Bong’ yn cael ei chyhoeddi ar recordiau Strangetown gyda fersiwn 12 modfedd finyl ar gael ar Fehefin 17.

Cynlluniwyd y clawr gan yr artist Pete Fowler sydd wedi creu sawl clawr i waith y Super Furry Animals yn y gorffennol.

Linc i fideo ‘Bing Bong’

https://www.youtube.com/watch?v=fqXpWvEW3ZU