Mae astudiaeth gan raglen BBC Breakfast yn dangos mai Cymru yw un o’r ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf wrth i fanciau lleol gau.

Roedd yr astudiaeth yn dangos bod 610 o fanciau wedi cau ledled Prydain rhwng mis Ebrill 2015 a mis Ebrill 2016.

Cymru, Yr Alban a rhannau o dde-orllewin Lloegr sydd wedi gweld y nifer fwyaf o’u banciau yn cau, gyda phum sir o Gymru ar y rhestr o’r 10 awdurdod lleol sydd wedi’u heffeithio fwyaf.

Powys, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Sir Gaerfyrddin yw’r siroedd yng Nghymru sydd wedi gweld y cwymp mwyaf yn nifer eu banciau lleol.

Mewn blwyddyn, banc y RBS a gaeodd y mwyaf o fanciau – 166, gyda HSBC ddim yn bell ar ei ôl, yn cau 146.

Pryderu am gymunedau

Mae pryderon dros economi cymunedau lleol a phobol hŷn wrth i fwy a mwy o fanciau gau, gyda’r banciau yn annog pobol i fynd ar-lein yn lle.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi codi effaith hyn oll ar y Gymraeg ac effaith cymunedau hefyd, gan fod diffyg gwasanaeth Cymraeg ar wefannau’r banciau mawr.

Yn ôl y banciau, mae gostyngiad mawr wedi bod yn nifer y bobol sy’n mynd i fanciau bellach, ac nad yw cadw pob un ar agor yn gynaliadwy.

Tri banc yn cau yn Llandysul

Dim ond un banc sydd ar ôl bellach yn Llandysul, tref fechan yn ne Ceredigion sydd wedi gweld tri banc yn cau o fewn y saith mlynedd diwethaf.

“Mae’n effeithio y bobol hŷn,” meddai Peter Evans, cynghorydd y dref, wrth golwg360.

“Hap a damwain yw hi bod fi’n gallu helpu’m fam sy’n 87. Dw i’n helpu hi i gael treth i’r car a dw i wedi bod yn helpu ffrindiau oedrannus eraill i gael yswiriant car, yswiriant tŷ.”

Mae Natwest (oni bai am wasanaeth symudol unwaith yr wythnos), HSBC a Lloyd’s TSB wedi gadael y dref ac mae’r Barclays lleol dim ond ar agor dwywaith yr wythnos.

“Byddai’n drychineb i mam petai Barclays yn cau, achos mae’n gallu mynd ar y bws i Gaerfyrddin (lle mae’r banc agosaf arall, 14 milltir i ffwrdd) ond faint mae hwnna’n mynd i bara?” ychwanegodd Peter Evans.

“Mae pobol oedrannus yn y gymdeithas sydd â neb, yn enwedig pobol dŵad, does neb ganddyn nhw i’w cynghori nhw.”