Dafydd Elis-Thomas
Mae’n hanfodol bod Aelodau’r pumed Cynulliad yn siarad Cymraeg yn y Siambr ar bob cyfrif, yn ôl ymgyrchwyr iaith a’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Wrth roi gair o gyngor i Aelodau newydd, dywedodd Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd: “Gair o gyngor – siaradwch Gymraeg, plîs, yn y Cynulliad”.

Yn ôl amcangyfrifon Cymdeithas yr Iaith, mae mwy o siaradwyr Cymraeg rhugl am fod yn y Cynulliad newydd.

Ymhlith y wynebau newydd sy’n medru’r iaith mae Jeremy Miles, yr aelod Llafur dros Gastell Nedd, y Farwnes Eluned Morgan, eto o’r Blaid Lafur ac yn cynrychioli rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru.

Hefyd yno ac yn medru’r iaith mae Steffan Lewis o Blaid Cymru dros ranbarth De Ddwyrain Cymru, a Chymry Cymraeg eraill sy’n newydd i’r Cynulliad yn rhengoedd y Blaid yw Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) a Siân Gwenllïan (Arfon).

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae 18 o Aelodau’r Cynulliad yn medru siarad Cymraeg rhugl, o gymharu ag 16 yng Nghynulliad 2011-2016.

Hefyd y tro hwn mae 11 Aelod arall sy’n ddysgwyr, gan gynnwys Darren Millar (Aelod Ceidwadol Gorllewin Clwyd), Neil McEvoy (Plaid Cymru, Canol De Cymru) a Hannah Blythyn (Llafur, Delyn). Naw oedd yn dysgu y tro diwethaf.

88% o drafodaethau yn Saesneg

Er bod tua thraean o Aelodau’r Cynulliad, sef 20 neu 33%, wedi medru siarad Cymraeg yn y gorffennol, dim ond tua 12% o’r amser y bu i’r iaith wedi ei chlywed ar lawr y siambr.

O ran y pleidiau, mae’r Blaid ymhell ar y blaen o ran defnydd yr iaith yn y Senedd gan annerch yn Gymraeg 53% o’r amser. Yna daw’r Lib Dems ar 9%, Llafur ar 5% a’r Ceidwadwyr ar 2%.

O ran aelodau unigol, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yw’r gorau am ddefnyddio’i Gymraeg. Bu i Aelod Dwyfor Meirionnydd siarad Cymraeg 95% o’r amser.

Amenio’r Arglwydd

 “Rydyn ni’n cytuno gyda Dafydd Elis-Thomas bod dyletswydd ar bob un o’r aelodau i ddefnyddio’r Gymraeg,” meddai Manon Elin, Cadeirydd o grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Rydyn ni’n credu hefyd bod cyfrifoldeb ar Aelodau Cynulliad di-Gymraeg i fynd at i ddysgu’r iaith, gan fanteisio ar y gefnogaeth sydd ganddyn nhw i wneud hynny yn y Cynulliad.”

Rhagor am hyn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.