Y Preifat Matthew Boyd, Llun: Catrawd Frenhinol Gibraltardrwy'r Weinyddiaeth Amddiffyn
Mae dyn, 23 oed, wedi ymddangos gerbron llys yn Aberhonddu heddiw, wedi’i gyhuddo o lofruddio milwr.

Cafwyd hyd i’r Preifat Matthew Boyd, o Gatrawd Frenhinol Gibraltar, yn anymwybodol yn y dref ym Mhowys, am tua 1 o’r gloch y bore ddydd Sul. Bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Fe ymddangosodd Jake Vallely, yn Llys Ynadon Aberhonddu heddiw wedi’i gyhuddo o lofruddio Matthew Boyd.

Roedd Vallely, na ellir cyhoeddi ei gyfeiriad, wedi siarad i gadarnhau ei enw a’i oedran cyn cael ei anfon yn ôl i’r ddalfa.

Mae ail ddyn, Aaeron Evans, sy’n 22 oed, a oedd yn y llys heddiw hefyd, wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol. Mae e hefyd yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Bydd y ddau ddyn yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.

Teulu’n diolch i Aberhonddu

Roedd y Preifat Matthew Boyd, oedd yn 29 oed, yn byw yn Gibraltar, Sbaen, ond yn dod o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Hoffem ddiolch i gymuned Aberhonddu am eu cydymdeimlad. Mae wedi rhoi cymaint o nerth i ni yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn.

“Roedd Matthew yn ddyn ifanc caredig a phoblogaidd, ac mae wedi bod yn hyfryd gweld ei bersonoliaeth garedig drwy garedigrwydd pobol ddiarth.”