*Trafodaethau’n parhau yn dilyn y bleidlais ddoe i ddewis Prif Weinidog

*Llafur yn beirniadu ar ôl i’r Ceidwadwyr ac UKIP gefnogi ymgeisyddiaeth Leanne Wood

*UKIP yn dweud heddiw y bydden nhw’n barod i gefnogi Llafur dan yr amgylchiadau cywir

*Llafur yn mynnu nad oes trafodaethau ffurfiol wedi bod

*Angen datrysiad naill ffordd neu’r llall erbyn 1 Mehefin

17.59: Dyna ni am y tro heddiw – digon i gnoi cil drosto, gan gynnwys y brif stori sef bod UKIP bellach yn fodlon cydweithio â Llafur hefyd, ond plaid Carwyn Jones yn pellhau eu hunain oddi wrth yr awgrym honno.

Mae disgwyl hefyd i drafodaethau barhau rhwng Plaid Cymru a Llafur fory, wrth iddyn nhw weld a oes modd dod i gytundeb fyddai’n gweld Carwyn Jones yn cael ei ailethol yn Brif Weinidog.

Mae’r Cynulliad hefyd wedi rhyddhau datganiad yn cadarnhau beth yw’r trefniadau o ran cynnal pleidlais arall i ddewis Prif Weinidog – Elin Jones, fel y Llywydd newydd, sydd â’r pŵer i benderfynu pryd y bydd hynny’n digwydd.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n disgwyl y bydd pleidlais arall ar y mater yn y Cynulliad ddydd Mawrth, ond fe fydd yn rhaid i o leiaf un o’r pleidiau (neu Aelod Cynulliad unigol) newid eu meddwl os ’dyn ni am osgoi pleidlais gyfartal arall.

17.45: Mae Nathan Gill wedi pwysleisio y byddai’n fodlon cefnogi Llafur petai polisiau UKIP fel diddymu tollau Pont Hafren yn cael eu gweithredu – ond hyd yn hyn does dim awgrym wedi dod gan Lafur eu bod yn barod i gynnig hynny iddo.

Mae gohebydd Golwg yn y Cynulliad hefyd wedi bod yn siarad â sawl un o’r ACau, gan gynnwys arweinydd y grŵp UKIP Neil Hamilton. Yn ôl Gareth Hughes does dim cytundebau wedi cael eu gwneud “ond mae pobol wedi bod yn siarad â’i gilydd, mae hynny’n sicr”.

Ychwanegodd “bod bysedd Adam Price dros y peth yn gyfan gwbl” gan gyfeirio at y bleidlais ddydd Mercher, a bod Neil Hamilton wedi dod yn fwy o ffrindiau â’r AC Plaid Cymru wrth iddyn nhw ymgyrchu yn erbyn ei gilydd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn yr etholiad.

Yn y cyfamser mae Llafur yn dweud eu bod nhw wedi gofyn wrth Leanne Wood beth oedd hi eisiau cyn y bleidlais ddoe, a’i bod hi wedi dweud ei bod hi am weld rhaglen lywodraeth Plaid Cymru yn cael ei gweithredu heb fynd i fwy o fanylion.

Mae’n debyg bod ACau Llafur hefyd yn flin gan eu bod nhw wedi penderfynu gadael i Blaid Cymru gael sedd y Llywydd, ar y dealltwriaeth na fydden nhw wedyn yn gwrthwynebu ethol Carwyn Jones fel Prif Weinidog.

16.33: Mae Plaid Cymru yn barod i ddechrau trafodaethau â Llafur unwaith y mae Carwyn Jones yn barod i eistedd lawr â nhw, yn ôl ffynhonell sydd yn cael ei ddyfynnu gan WalesOnline.

Ychwanegodd y ffynhonell y gallai’r tîm o Blaid Cymru oedd yn cymryd rhan mewn trafodaethau gynnwys Simon Thomas, Llŷr Gruffydd a Steffan Lewis o bosib – ond nid Rhun ap Iorwerth nac Adam Price. Bydda hynny’n ddatblygiad annisgwyl o gofio bod y ddau yna’n cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau canolog y blaid.

Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Daran Hill mae sawl AC Ceidwadol wedi dweud wrtho eu bod nhw’n anhapus eu bod nhw wedi gorfod cefnogi Leanne Wood yn y bleidlais i ddewis Prif Weinidog, ond yn teimlo “nad oedd dewis ganddyn nhw”.

Mae Mark Reckless hefyd wedi dweud mai gyda’r Ceidwadwyr, nid Plaid Cymru, y buodd o’n sgwrsio cyn y bleidlais honno ddoe.

16.09: Mae’r sylw isod gan ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Clwyd yn yr etholiad diweddar, Mabon ap Gwynfor, yn nodweddiadol o’r neges sydd i’w chlywed gan sawl un o gefnogwyr y blaid ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw.

“Llafur yn gwneud cytundebau brwnt nawr? Un ogystal â gweithio mewn llywodraeth ag UKIP mewn awdurdodau lleol,” meddai ar Twitter wrth ymateb i’r sôn bod ambell un o ACau UKIP yn fodlon rhoi cefnogaeth i Carwyn Jones.

Ond yn ôl AS Pontypridd Owen Smith, anghywir ydi cymharu Llafur a Phlaid Cymru pan mae’n dod at eu hymdriniaeth nhw ag UKIP.

“Mae gwahaniaeth mawr rhwng chwilio am gefnogaeth oddi wrth UKIP fel y gwnaeth Plaid & UKIP yn cynnig cefnogaeth annerbyniol na ofynnwyd amdano,” trydarodd yn gynharach.

15.36: Mae ein gohebydd ni Iolo Cheung wedi bod yn dadansoddi sefyllfa’r pleidiau fel mae’n sefyll ar hyn o bryd yn dilyn 24 awr o gynnwrf yn y Cynulliad.

“Ar ôl y sioc o beidio ag ennill y bleidlais ddoe, fe drodd sylw Llafur yn sydyn tuag at Blaid Cymru ac fe ddechreuodd y cyhuddiadau bron yn syth fod y cenedlaetholwyr wedi ‘bradychu’ eu cefnogwyr wrth wneud deal gyda’r Torïaid ac UKIP,” meddai.

“Ond mae’r esgid ar y droed arall rhywfaint heddiw, gyda Phlaid Cymru a’i chefnogwyr nawr yn taflu cyhuddiadau tebyg yn ôl ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod rhai o ACau UKIP o leiaf yn ystyried troi at gefnogi Llafur.

“Mae’r pleidiau i gyd wedi cael rhyw fath o sgyrsiau anffurfiol â’i gilydd mewn rhyw ffordd, ond er mwyn ‘taro bargen’ ag UKIP mae’n rhaid eich bod chi wedi cynnig rhywbeth yn ôl iddyn nhw fel rhan o’r cytundeb – a does dim awgrym eto bod Plaid na Llafur wedi gwneud hynny.

“Mae UKIP fel petawn nhw’n mwynhau tynnu blew o drwynau’r pleidiau eraill yn barod yn eu hwythnos gyntaf yn y Cynulliad – a hynny wrth gwrs wedi digon o gecru mewnol yn eu mysg nhw eisoes.

“Y Ceidwadwyr? Wel, dydyn nhw ddim am daro bargen gyda Llafur ac felly er nad ydyn nhw eisiau gweld Leanne Wood yn Brif Weinidog chwaith roedd hi’n gyfle o leiaf iddyn nhw roi trwyn gwaedlyd i Carwyn Jones.

“Hyd yn hyn does dim arwydd y bydd y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams yn newid ei safbwynt, ond dyw ei chefnogaeth hi ddim yn ddigon i Carwyn Jones.

“Felly os nad ydi Llafur yn fodlon taro bargen â’r Ceidwadwyr ac UKIP, ac yn methu gyda Kirsty, a fydd yn rhaid dod i ryw fath o ddealltwriaeth â Phlaid Cymru yn y diwedd?

“Faint o awydd cydweithio sydd rhwng y ddwy blaid fwyaf ar hyn o bryd, o ystyried yr holl gecru diweddar?”

15.05: Efallai bod UKIP wedi awgrymu y bydden nhw’n fodlon cefnogi Carwyn Jones fel Prif Weinidog os ydyn nhw’n cael cynigion polisi – ond dydi’r AC Llafur ym Mlaenau Gwent ddim yn gweld y cynnig hwnnw’n dod.

“Rydyn ni wedi bod yn hollol glir nad ydyn ni’n fodlon gwneud unrhyw deals gydag UKIP na’r Toriaid,” meddai Alun Davies wrth golwg360.

“Dyw hynny ddim yn mynd i newid – fyddai’r grŵp Llafur ddim yn derbyn hynny, a dyw Carwyn ddim hyd yn oed wedi awgrymu y bydde fe’n cynnig unrhyw beth iddyn nhw, dyw e jyst ddim yn mynd i ddigwydd.

Ychwanegodd ei fod yn yn gweld “anhapusrwydd reit ar draws y Siambr” gyda beth ddigwyddodd yn y bleidlais ddoe.

14.50: “Dydw i heb wneud unrhyw gytundeb â Llafur,” meddai Nathan Gill wrth Martin Shipton yn gynharach prynhawn yma, er iddo ddweud y byddai’n fodlon gweithio ag unrhyw blaid er mwyn gweld polisiau UKIP yn cael eu gwireddu.

“Dw i’n amau bod Llafur yn ceisio rhoi’r argraff mod i’n mynd nôl at Carwyn er mwyn rhuthro Plaid i mewn i gytundeb ‘cheap date’,” ychwanegodd, gan gyfeirio at sylw Leighton Andrews ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf.

Mae’r Blaid Lafur yn y cyfamser wedi parhau i ymosod ar Blaid Cymru yn dilyn canlyniad y bleidlais ddoe.

“Mae’n syfrdanol bod Plaid Cymru, plaid sydd mor gefnogol tuag at Ewrop, yn fodlon gwneud cytundebau mewn ’stafelloedd cefn ag UKIP a’r Toriaid Cymreig o dan y fath amgylchiadau,” meddai Vicki Howells, yr AC Llafur newydd yng Nghwm Cynon, wrth wefan LabourList.

“Mae’n edrych fel bod ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn chwarae gemau gwleidyddol byr dymor na buddiannau hir dymor Cymru.”

14.01: Yn ôl Owen Smith, yr Aelod Seneddol Llafur dros Bontypridd, mae ei blaid o wedi gwrthod unrhyw gydweithio ag UKIP.

“Wedi bo mewn cyfarfodydd am yr argyfwng dur drwy’r bore ac yn dod allan i ddarganfod bod UKIP yn gofyn i Lafur gynnig cytundeb iddyn nhw fel y gwnaeth Plaid. Fe ddywedon ni Na,” meddai.

13.38: Yn ôl prif ohebydd y Western Mail Martin Shipton mae UKIP yn credu bod y sôn am Nathan Gill a Mark Reckless yn “gwestiwn ffals” ac mai cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru ydi’r datrysiad mwyaf tebygol o hyd.

Ond ar ôl yr holl anghydfod rydyn ni wedi gweld yn rhengoedd UKIP yr wythnos hon yn barod, pwy sydd i wybod a ydi’u haelodau nhw ar yr un dudalen pan mae’n dod at y cwestiwn yma?

13.33: Dydyn ni heb glywed rhyw lawer eto gan ACau Llafur ers i’r newyddion dorri fod aelodau UKIP yn ystyried cefnogi Carwyn Jones fel Prif Weinidog – fel y gallwch chi ddychmygu, mae cefnogwyr Plaid Cymru ar Twitter yn cael rhywfaint o hwyl ar Twitter yn taflu’r cyhuddiadau ddaeth i’w cyfeiriad nhw ddoe yn ôl tuag at Lafur.

Ond un sydd wedi ymateb ydi Callum Higgins, cynghorydd Llafur yn Sir Gâr oedd yn ymgeisydd dros y blaid yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn yr etholiad cyffredinol llynedd.

“Wedi fy mrawychu o glywed y gallai UKIP bleidleisio o blaid Llywodraeth Lafur, ymatalwch eich pleidlais. Dw i ddim ond eisiau cefnogaeth bositif gan Plaid a/neu Rhyddfrydwyr,” meddai, cyn ychwanegu fod hyn oll yn edrych fel carfan o aelodau UKIP sydd yn ceisio tanseilio trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid.

13.26: Mae’r holl gecru a chyhuddiadau yma o gyfeiriad y pleidiau’n ormod i ambell un o’n gwleidyddion ni mae’n debyg.

“Mae’n teimlo fel amser da i fynd i Lundain #byebaybubble” trydarodd cyn-AC Llafur Leighton Andrews y prynhawn yma – mae’n debyg bod Nathan Gill wedi mynd hyd yn oed yn bellach, i Frwsel, heddiw.

Mae Nathan Gill wrth gwrs hefyd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd dros UKIP, ond mae’r Comisiwn Etholiadol eisoes wedi dweud y byddai’n rhaid iddo ildio’s sedd honno unwaith y caiff ei ethol i’r Cynulliad.

13.13: Mae Mark Reckless bellach wedi cadarnhau y byddai’n fodlon cefnogi Carwyn Jones fel Prif Weinidog os oes rhywbeth yn cael ei gynnig i UKIP.

“Fe fydden ni i gyd yn fodlon cefnogi Llafur a Carwyn os oedden nhw’n fodlon rhoi digon o beth roedden ni eisiau yn ein maniffesto,” meddai’r Aelod Cynulliad.

13.07: Mae datganiad bellach wedi’n cyrraedd ni gan y Blaid Lafur.

“Does dim trafodaethau ffurfiol gydag unrhyw blaid ar hyn o bryd ac yn sicr ddim gydag UKIP. Roedd Nathan Gill, fel bron i bob AC arall, eisiau siarad â’r Prif Weinidog ddoe. Doedd y Prif Weinidog ddim ar gael felly fe wnaeth e siarad ag aelod blaenllaw o’n grŵp.

“Dros y dyddiau nesaf fe fyddwn ni’n siarad ag ACau o bob plaid er mwyn sicrhau bod gan Gymru lywodraeth sefydlog mor fuan â phosib, ond does dim cytundeb â Nathan nac UKIP fel sydd wedi cael ei awgrymu.”

Dim trafodaethau ‘ffurfiol’ felly, yn ôl Llafur – ond mae trafodaethau anffurfiol yn sicr yn digwydd y tu ôl i’r llen, a’r pleidiau eu hunain wedi cyfaddef hynny i ni eisoes y bore ’ma.

Y ‘Prif Weinidog’ sy’n cael ei gyfeirio ato yn y dyfyniad wrth gwrs ydi Carwyn Jones – mae’n parhau yn ei swydd am y tro nes y bydd un ai’n cael ei ailethol neu fod rhywun arall yn cael ei ethol yn ei le.

13.00: Nid y gwleidyddion yw’r unig rai sydd wedi bod yn ymateb i ddigwyddiadau’r 24 awr diwethaf – mae rhai o’r undebau llafur hefyd wedi bod yn lleisio’u barn.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC yng Nghymru Martin Mansfield, fe bleidleisiodd etholwyr Cymru “yn llethol i bleidiau oedd wedi sefyll ar blatfform blaengar”, a bod angen bwrw ’mlaen â’r gwaith o achub y diwydiant dur a gwella gwasanaethau cyhoeddus mor sydyn â phosib.

“Fydd gweithwyr Cymru ddim yn deall nac yn maddau os yw’r blaenoriaethau o gyfiawnder cymdeithasol a gwaith teg yn cael eu colli mewn gemau gwleidyddol neu gytundebau gyda phleidiau asgell dde,” meddai.

Os ’dych chi’n meddwl fod hynny’n feirniadaeth gryf fodd bynnag, gwrandewch ar beth oedd gan ysgrifennydd undeb Unite yng Nghymru i’w ddweud.

Yn ôl Andy Richards, “staen ar ein democratiaeth” oedd yr hyn a welwyd yn y Senedd ddoe sydd wedi amddifadu Cymru o’r “arweinyddiaeth gref sydd ei hangen arni”.

“Mae Unite yn hyderus bod Leanne Wood yn mynd i gysgu’n dawel gyda’r nos gan wybod fod ganddi gefnogaeth Andrew RT Davies a Neil Hamilton,” ychwanegodd.

12.52: “Bydden i wedi fy synnu’n fawr tase’r Blaid Lafur, ar ôl beth ddywedon nhw ddoe, yn barod i wneud cytundeb ag unigolyn o UKIP fel Nathan Gill, ac mae’n dangos pa mor despret yw’r Blaid Lafur ar hyn o bryd,” oedd geiriau Simon Thomas ar raglen Daily Politics ychydig funudau yn ôl.

Mae hyn yn dilyn ymateb chwyrn y Blaid Lafur i ddigwyddiadau ddoe, a’u cyhuddiad nhw fod Plaid Cymru wedi bardychu’u hegwyddorion a’u haddewidion wrth wneud ‘cytundeb’ eu hunain â’r Ceidwadwyr ac UKIP.

12.41: Y diweddaraf o’r Bae, yn ôl golygydd gwleidyddol y BBC Nick Servini, yw bod Nathan Gill a Mark Reckless o UKIP nawr yn barod i roi eu cefnogaeth i Carwyn Jones er mwyn iddo allu ffurfio llywodraeth.

Ond yn ôl Lyn Courtney, gohebydd ITV, mae hi wedi siarad â Nathan Gill sydd wedi dweud na fydd o’n mynd yn erbyn ei blaid wrth iddyn nhw benderfynu pwy i’w gefnogi fel Prif Weinidog, ac y bydd yn aros nes i’r grŵp gyfarfod.

12.37: Prynhawn da, a chroeso i Flog Byw Golwg360 gyda’r diweddaraf ar y datblygiadau ym Mae Caerdydd.

Roedd hi’n ddiwrnod dramatig yn y Senedd ddoe wrth i Carwyn Jones fethu â chael ei ailethol yn Brif Weinidog, a hynny ar ôl i’r Ceidwadwyr ac UKIP uno i gefnogi ymgeisyddiaeth Leanne Wood o Blaid Cymru.

Mae’r dadlau a’r cecru wedi parhau ers hynny, gyda Llafur yn cyhyddo Plaid o neidio i’r gwely â phleidiau asgell dde, a’r cenedlaetholwyr yn cyhuddo Carwyn Jones o haerllugrwydd wrth fynnu pleidlais er nad oedd yn gwybod fod ganddo fwyafrif.

Ers hynny mae’r trafodaethau wedi parhau rhwng y pleidiau, gyda Rhun ap Iorwerth yn dweud fod Plaid Cymru eisiau clywed beth sydd gan Lafur i’w gynnig cyn cytuno i adael iddyn nhw ffurfio llywodraeth, ac Alun Davies yn awgrymu y gallai Kirsty Williams ymuno â rhengoedd Llafur mewn llywodraeth.