Llys Ynadon Aberhonddu
Mae dyn 23 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio milwr yn Aberhonddu ddydd Sul diwethaf.

Cafwyd hyd i’r Preifat Matthew Boyd, 20,  yn anymwybodol ac wedi’i anafu ar Stryd Lion yn y dref tua 1:00 fore Sul, 8 Mai. Cafodd ei gludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae ail ddyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo o ymrafael.

Mae’r ddau ddyn yn cael eu cadw yn y ddalfa ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys Ynadon Aberhonddu heddiw (dydd Iau).

Teyrnged

Mewn teyrnged i Matthew Boyd, o Gatrawd Frenhinol Gibraltar, dywedodd ei deulu ei fod yn “ddyn ifanc caredig a phoblogaidd.” Maen nhw hefyd wedi diolch i gymuned Aberhonddu am eu cefnogaeth. Roedd y milwr yn byw yn Gibraltar ond yn dod o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol.