A hithau’n wythnos i godi ymwybyddiaeth am Ddementia, fe fydd rhaglen arbennig yn cael ei darlledu heno am ganfyddiadau prosiect ymchwil gafodd ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru.

Fe gymerodd 500 o bobl ran yn y prosiect sy’n archwilio effaith clefyd Alzheimer a sut i ofalu am bobl sy’n dioddef ohono. O’r rheiny, roedd 100 o’r cyfranogwyr yn dod o ogledd Cymru.

Fel rhan o’r ymchwil, mae arbenigwyr wedi asesu effeithiau therapi a gweithgareddau amrywiol ar unigolion sy’n dioddef o ddementia, gan ystyried posibiliadau teilwra’r rheiny at anghenion unigol.

‘Ar flaen y gad’

 

“Mae’n ddull addawol i helpu unigolion fyw’n dda gyda dementia, ac rydym wedi cael ymateb gwych gan yr unigolion sydd â dementia a gofalwyr sy’n cymryd rhan,” meddai’r Athro Bob Woods, sy’n goruchwylio’r safle ymchwil yng ngogledd Cymru.

“Mae’r gefnogaeth gan ein cydweithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ei gwneud hi’n bosibl i gadw Gogledd Cymru ar flaen y gad gydag ymchwil rhyngwladol ar ofal dementia.”

Mae’r rhaglen yn rhan o gyfres Horizon a bydd ar BBC Two heno.