Tîm Cymru'n dathlu wrth gyrraedd cystadleuaeth Ewro 2016 yn Ffrainc
Mae’r Mentrau Iaith wedi lansio ymgyrch genedlaethol i annog cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru i ddangos eu cefnogaeth i’r tîm yn Gymraeg yn Ewro 2016.

Mae ymgyrch ‘Y Bêl’ yn gofyn i gefnogwyr ddatgan eu cefnogaeth drwy lofnodi peli anferth yn eu cymunedau, a recordio neges i’r tîm.

Bydd 23 pêl yn crwydro Cymru dros yr wythnosau nesaf a bydd negeseuon a fideos yn cael eu rhannu ar Facebook ac ar Twitter ac mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru.

Bydd y peli a’r negeseuon yn cael eu cyflwyno i’r garfan ar drothwy cystadleuaeth Ewro 2016 yn Ffrainc.

Wrth i’r peli gael eu pasio ymlaen, fe fydd yn symbol o drosglwyddo’r Gymraeg i bobol eraill er mwyn sicrhau ei dyfodol.

Codi proffil y Gymraeg

Mewn datganiad, dywedodd Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Mentrau Iaith Cymru, Adam Jones: “Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau sy’n gweithio yn ein cymunedau, a’n bwriad trwy lansio’r ymgyrch hon yw codi proffil gwaith y Mentrau i gynulleidfa ehangach trwy ddiolch i’r FAW am eu hymrwymiad i’r Gymraeg yn ogystal ag annog mwy o bobl i droi at y Gymraeg wrth gefnogi’r bois.

“Rydym dros y misoedd diwethaf, wedi gweld cryn dipyn o amlygrwydd yn cael ei roi i’r Gymraeg, boed ar grysau chwaraewyr, ar ddeunydd hyrwyddo’r FAW neu mewn cyfweliadau yn dilyn gemau rhyngwladol.

“Mae hyn oll yn help wrth godi proffil ac ymwybyddiaeth y Gymraeg, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd, a thrwy lansio’r ymgyrch hon, hoffwn ddiolch i’r tîm ac i’r FAW am sbarduno hyder a balchder pobl yn eu Cymreictod yn ogystal â galw ar siaradwyr Cymraeg ym mhob cwr o Gymru, i gefnogi eu tîm cenedlaethol yn Gymraeg.”

‘Dathlu’

Un sy’n gyffrous am yr ymgyrch, ac sydd wedi chwarae rôl flaenllaw wrth hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg dros y blynyddoedd yw’r cyn-chwaraewr a’r gôl-geidwad rhyngwladol, Dai Davies.

Dywedodd mewn datganiad: “Mae gweld Cymru, am y tro cyntaf ers cyfnod hir iawn, mewn pencampwriaeth ryngwladol yn rhywbeth i bob un ohonom ddathlu.

“Fel Cymry, mae dathlu llwyddiant, yn enwedig yn y maes pêl-droed yn brofiad diarth iawn, ond y tro hwn, mae gennym gyfle go iawn i godi statws Cymru’n rhyngwladol a thrwy hynny, codi hyder a balchder pobl yn y Gymraeg.

“Fel chwaraewr pêl-droed, ac fel sylwebydd, mae’r gallu i siarad Cymraeg wedi bod yn fanteisiol iawn i mi yn ystod fy ngyrfa.

“Rwyf wrth fy modd, yn gallu cefnogi ymgyrch y Mentrau Iaith i gasglu cefnogaeth i’r tîm, a hoffwn alw ar bawb i ymuno yn y dathlu, cefnogi Cymru a chefnogi’r Gymraeg.”

Os hoffech chi gymryd rhan a dangos eich cefnogaeth i’r tîm cenedlaethol, cysylltwch â’ch menter iaith leol i glywed mwy www.mentrauiaith.cymru.

I ddilyn hynt a helynt y peli a’r negeseuon o gefnogaeth, cofiwch ddilyn #DiolchCymru #CmonCymru