Mae Dyfodol i’r Iaith wedi codi pryderon ynghylch safon y Gymraeg wrth gyhoeddi canlyniadau etholiadau’r Cynulliad ledled Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r mudiad lobïo bellach wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn am eglurder ar y safonau iaith sydd i’w disgwyl mewn digwyddiadau o’r math.

Yn y llythyr, mae hefyd yn pwyso ar y Comisiynydd, Meri Huws, i lunio canllawiau clir ar y safonau sydd i’w disgwyl, “er mwyn osgoi anghysondebau o’r math at y dyfodol”.

‘Amrywiaeth o etholaeth i etholaeth’

Dywedodd Dyfodol ei fod yn dda clywed dysgwyr yn defnyddio’r Gymraeg wrth gyhoeddi’r canlyniadau mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru.

Er hynny, mae’r mudiad yn credu bod “amrywiaeth sylweddol o etholaeth i etholaeth” yn y pwyslais ar y Gymraeg ac ar safon yr iaith.

“Cafwyd cyhoeddwyr yn cael trafferth sylweddol gyda’r Gymraeg, a throeon eraill, cafwyd y cyhoeddiad yn llawn yn y Saesneg, gyda’r Gymraeg yn dilyn fel ôl-ystyriaeth, gan adael i sylwebyddion y cyfryngau siarad drosti,” meddai’r mudiad mewn datganiad.

“Mae’n allweddol bwysig fod y Gymraeg yn cael ei chlywed a’i pharchu ar achlysuron cyhoeddus fel hyn.”

Canllawiau

Ar ran y Comisiynydd, dywedodd llefarydd ei bod wedi cynnal arolwg o drefniadau Etholiad Cyffredinol 2015, oedd yn cynnwys 15 o argymhellion i awdurdodau lleol a swyddogion canlyniadau.

“Roedd y canllawiau’n nodi y dylid gwneud pob cyhoeddiad yn Gymraeg a Saesneg, bod angen sicrhau cyn lleied o oedi â phosibl rhwng y cyhoeddiad yn Gymraeg a Saesneg, ac y dylid ‘defnyddio siaradwyr Cymraeg rhugl ar gyfer cyhoeddiadau yn Gymraeg i sicrhau eu bod yn cyflwyno cyhoeddiadau yn gywir ac y gall siaradwyr Cymraeg eu deall’.

“Mae’r Comisiynydd yn awr yn gwirio trefniadau Etholiad y Cynulliad mis Mai 2016 a fydd yn cynnwys gwirio cyhoeddiad canlyniadau. Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad yn nodi’r canfyddiadau ac unrhyw argymhellion posibl.”