Dafydd Elis-Thomas Llun: Plaid Cymru
Mae un o hoelion wyth Plaid Cymru wedi amddiffyn ei sylwadau dadleuol ynghylch etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throsedd  y Gogledd.

Yn ôl Dafydd Elis-Thomas, cafodd ei “gamddeall”, pan awgrymodd cyn yr etholiad y dylai cefnogwyr yr holl brif bleidiau yn y Gogledd roi un o’u dwy bleidlais i’r ymgeisydd Llafur, David Taylor, er mwyn cadw UKIP allan.

“Dwi’n meddwl bod beth ddywedais i wedi cael ei gamddeall. Efallai mai’r camgymeriad wnes i oedd caniatáu i ymgeisydd plaid arall i ddefnyddio’r sylwadau,” meddai ar raglen y Post Cyntaf.

Achos disgyblu?

Mae’r Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd wedi arfer â mynd yn erbyn trefn ei blaid, a dydy hi ddim yn glir eto os caiff ei ddisgyblu am ei sylwadau.

Os bydd, gydag ond un sedd yn fwy na’r Ceidwadwyr, gallai Blaid Cymru golli ei statws fel yr wrthblaid swyddogol yn y Cynulliad.

“Rhy gefnogol i Lafur”

Fe wnaeth Arfon Jones o Blaid Cymru, sicrhau digon o bleidleisiau i gael ei ethol yn Gomisiynydd y Gogledd a hefyd Dafydd Llywelyn, a gafodd ei ethol dros y Blaid yn ardal Dyfed-Powys.

“Beth roedden i’n ceisio dangos bod pleidlais amgen i gael,” ychwanegodd Dafydd Elis-Thomas.

“Beth ddigwyddodd yn y Gogledd ac yn Nyfed-Powys oedd bod pobol wedi defnyddio eu pleidlais amgen a bod ymgeiswyr Plaid Cymru yn y ddwy ardal wedi ennill yn sylweddol oherwydd eu bod wedi manteisio ar bleidleisiau eraill.

“Felly fe wnaeth bobol wrando ond fe gam-ddefnyddiwyd fy sylwadau mae gen i ofn gan rai pobol sy’n meddwl bod i’n rhy gefnogol i’r Blaid Lafur, ond lle gawson nhw’r syniad yna?”