Dysgwyr y Flwyddyn 2016 - o'r chwith, Rwth Evans, Rachel Jones, Naomi O'Brien, Hannah Roberts, Sarah Reynolds
Mae pump wedi cael eu dewis eto ar restr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, gyda’r rownd derfynol yn digwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau.

Pedwar dysgwr Cymraeg sy’n cael eu dewis fel arfer i fynd ymlaen i’r rownd derfynol, ond penderfynodd y beirniaid, am yr ail flwyddyn, fod pump yn haeddu cyfle yn yr Eisteddfod.

Y rhai sydd ar y rhestr fer yw Rwth Evans, Caerdydd; Rachel Jones, Llanfair-ym-Muallt; Naomi O’Brien, Bedlinog; Sarah Reynolds, Caerfyrddin; a Hannah Roberts, Brynmawr.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Elwyn Hughes, Sandra De Pol ac Angharad Mair.

Bydd yr enillydd yn cael ei wobrwyo nos Fercher, 3 Awst mewn seremoni arbennig, lle fydd yn ennill tlws, £300 gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent a thanysgrifiad blwyddyn i Golwg.

Bydd y pedwar arall hefyd yn cael tlysau a £100 yr un, yn rhoddedig eto gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent.

“Safon uchel iawn”

“Erbyn hyn, mae Dysgwr y Flwyddyn yn un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod, ac mae gallu’r pum ymgeisydd eleni i ddysgu’r Gymraeg yn arbennig,” meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod.

“Mae gan y pum ymroddiad, egni, a dawn ieithyddol ardderchog, ac mae hon yn mynd i fod yn gystadleuaeth anodd iawn i’w beirniadu yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

“Roedd y safon yn uchel iawn eleni, a’r beirniaid yn bendant bod nifer o’r cystadleuwyr eraill hefyd yn haeddu lle ar y rhestr fer.  Ond yn anffodus, bu’n rhaid trafod yn hir, er mwyn dewis a dethol a thorri’r rhestr hir i lawr i bump.”

Y pump sydd ar y rhestr fer

Rwth Evans

Ers dysgu Cymraeg, mae Rwth Evans yn gwneud llawer â Chlonc yn y Cwtsh, sy’n fan cyfarfod i ddysgwyr Cymraeg y brifddinas, a Menter Iaith Caerdydd. Mae hefyd yn defnyddio ei sgiliau Cymraeg yn wirfoddol gyda’r RNIB drwy recordio adnoddau Cymraeg er mwyn i blant dall mewn ysgolion prif ffrwd eu defnyddio.

 

Rachel Jones

Merch fferm o Lanfair-ym-muallt yw Rachel Jones, sy’n dal i fyw ar fferm y teulu yn Llanafan Fawr. Bu’n byw yn Neuadd Pantycelyn yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol, ac roedd hyn o gymorth mawr iddi wrth iddi barhau i ddysgu’r iaith, a thrwy hynny, daeth yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg.

 

Naomi O’Brien

Merch o Fedlinog ger Merthyr Tudful yw Naomi. Mae teulu Naomi o dras Tseiniaidd ac mae dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd hunaniaeth ganddi. Mae wedi rhedeg grŵp Ti a Fi a Chylch Meithrin ac mae wedi dechrau gyrfa yn gweithio fel cynorthwyydd dysgu mewn ysgolion cynradd a chyfun yr ardal.

Hannah Roberts

Mae Hannah yn gweithio i Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy fel Swyddog Maes sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ym Mlaenau Gwent a Gogledd Sir Fynwy. Daeth at y Gymraeg drwy ddamwain pan oedd adref un haf o’r brifysgol ac yn chwilio am ‘rywbeth’ i’w wneud. Mynychodd gwrs blasu gyda Chymraeg i Oedolion ac fe gafodd ei bachu gan yr iaith.

 

Sarah Reynolds

Mae Sarah wedi ysgrifennu nofel yn y Gymraeg sy’n cael ei chyhoeddi gan Wasg Gomer. Bu’n gweithio ar raglenni teledu fel Big Brother a Strictly Come Dancing yn Llundain, cyn i’w bywyd newid yn llwyr pan drefnodd ei ffrindiau iddi gyfarfod â gŵr ifanc a ddaeth yn ŵr iddi, gan ei chyflwyno i fywyd a byd Cymraeg.