Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i holi dau ddyn yn dilyn marwolaeth milwr yn nhref Aberhonddu ym Mhowys ddydd Sul.

Mae’r milwr wedi’i enwi’n lleol fel y Preifat Matthew Boyd.

Cafodd y milwr, 20, o Gatrawd Frenhinol Gibraltar, ei ddarganfod yn anymwybodol ac wedi’i anafu ar Stryd Lion am tua 1:00 fore Sul, 8 Mai.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans ond bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd dyn 23 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth nos Sul ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa. Cafodd ail ddyn, 22 oed, ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth y milwr ddydd Llun.

Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau, ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un a oedd yn Stryd Lion, Sgwâr Bethel, Stryd Tredegar a’r Stryd Fawr rhwng 12.30yb a 1.30yb ddydd Sul i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod DP-20160508-024.