Mae dwy lon o’r M4 wedi cael eu cau prynhawn ma yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd, meddai’r heddlu.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw am 3.14yp ddydd Llun yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad  ger Twneli Brynglas, yng Nghasnewydd.

Yn ôl yr heddlu, mae’n ymddangos bod tri cherbyd wedi taro yn erbyn ei gilydd ond nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi’u hanafu’n ddifrifol.

O ganlyniad mae dwy lon o’r M4 ynghau ar hyn o bryd.