Mae milwr a fu farw yn nhref Aberhonddu ym Mhowys ddydd Sul wedi’i enwi’n lleol fel y Preifat Matthew Boyd.

Cafodd y milwr, 20, ei ddarganfod yn anymwybodol ac wedi’i anafu ar Stryd Lion am tua 1:00 fore Sul.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans ond bu farw’n ddiweddarach.

Dywed Heddlu Dyfed Powys bod ail ddyn, 22 oed, wedi’i arestio mewn cysylltiad a marwolaeth y milwr, a hynny wedi i ddyn 23 oed gael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth neithiwr.

Ymchwiliad yn parhau

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn bod y milwr o Gatrawd Frenhinol Gibraltar.

“Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio ar hyn o bryd ac felly ni fyddai’n briodol i ni wneud sylw pellach ynglŷn â’r digwyddiad,” meddai’r llefarydd.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau ac mae’r gatrawd yn gofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau, ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un a oedd yn Stryd Lion, Sgwâr Bethel, Stryd Tredegar a’r Stryd Fawr rhwng 12.30yb a 1.30yb ddydd Sul i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod DP-20160508-024.