Mae mudiad iaith wedi dweud fod gan Gymru “wersi i’w dysgu” yn dilyn canlyniad refferendwm tref glan môr yng Nghernyw i gyfyngu ar ail gartrefi yn yr ardal.

Dros y penwythnos, fe ddaeth i’r amlwg fod 83% o bleidleiswyr St Ives a Bae Carbis wedi cefnogi cynlluniau a gyflwynwyd gan y Cyngor Sir i ganiatáu trigolion lleol llawn amser yn unig i adeiladu cartrefi newydd yn yr ardal.

Yn ôl cyngor Cernyw, fe wnaeth 42.7% o’r bobl bleidleisio yn y refferendwm ac fe fydd yn atebol i adolygiad cyfreithiol yn awr.

‘Testun ysbrydoliaeth’

“Mae hyn yn newyddion da iawn i bobl leol yn yr ardal yna yng Nghernyw,” meddai Tamsin Davies, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.

 

“Mae gwersi i ni yng Nghymru i’w dysgu o’r refferendwm yma,” ychwanegodd gan gydnabod, er hynny, nad yw’r union bolisi yn addas ar gyfer pob rhan o Gymru.

“Ond, yn sicr, dyma enghraifft o’r math o beth y gellid ei wneud mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru a dylai fod yn destun ysbrydoliaeth i ni.”

 

Niweidiol i’r Gymraeg

 

Yn unol â deddfwriaeth newydd a ddaeth i rym ym mis Ionawr, mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru’r hawl i godi tâl disgresiwn ychwanegol ar dreth perchnogion ail gartrefi.

 

 “Gobeithio y bydd ein cynghorau yn edrych ar ddefnyddio’r pwerau sydd gyda nhw i atal yr allfudiad, patrwm sydd mor niweidiol i’r Gymraeg,” meddai Tamsin Davies.

Yn ôl Cyngor Tref St Ives, roedd 25% o gartrefi’r ardal yn cael eu hadnabod fel ail gartrefi yn 2011, a hynny 67% yn uwch na 2001. Fe fydd y dref hefyd yn dilyn camau sydd eisoes mewn grym yn Lynton a Lynmouth yn Nyfnaint.