David Melding
Mae Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol, David Melding, wedi cadarnhau’r bore ma nad yw’n dymuno cael ei enwebu fel Llywydd nesaf y Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr dros Ganol De Cymru: “Dw i ddim yn credu mai fi ydy’r person iawn i arwain y Cynulliad Cenedlaethol drwy’r cam nesaf yn ei ddatblygiad.”

Er hyn, dywedodd ei fod yn “edrych ymlaen at wneud cyfraniad lawn i waith y pumed Cynulliad ac yn arbennig at fentrau i gryfhau democratiaeth Gymreig ac effeithlonrwydd y gwasanaethau cyhoeddus.”

Enw arall

Ar ôl ennill 29 o seddi yn yr etholiadau, mae disgwyl i’r Blaid Lafur ffurfio llywodraeth leiafrifol, gyda’r Llywydd yn cael ei ethol ddydd Mercher ynghyd â’r cabinet llawn.

Enw arall yn y ras ar gyfer y Llywydd yw Kirsty Williams, unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

Mae hi eisoes wedi cyhoeddi ei bod am ymddiswyddo fel arweinydd ei phlaid yn dilyn canlyniadau siomedig y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiadau.

Pe bai Kirsty Williams yn derbyn y gwahoddiad i fod yn Llywydd y Cynulliad, fyddai hi ddim yn pleidleisio, ac fe fyddai’n olynu Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad diwethaf.