Triniaeth ganser
Nid yw teulu cyffredin yng Nghymru yn gallu fforddio byw gyda chanser, yn astudiaeth gan elusen ganser Macmillan.

Mae hynny am fod costau ychwanegol yn dod gyda’r clefyd, fel biliau gwresogi a cholled incwm, wrth i glaf fethu â mynd i’r gwaith.

Gall y broblem fynd mor wael nes bod rhai cleifion yn cael eu gorfodi i werthu eu tai, meddai’r elusen cymorth canser.

Yn ôl ymchwil, mae byw gyda’r clefyd yn costio tua £760 y mis ar gyfartaledd i thua 86% o gleifion yng Nghymru.

Ond mae tystiolaeth yr elusen yn dangos mai dim ond £490 y mis yn weddill sydd gan y teulu arferol ar ôl talu am bethau angenrheidiol fel biliau, bwyd a theithio bob dydd.

Yn ôl Macmillan, rhieni mewn gwaith sydd â phlant ifanc sy’n cael eu taro waethaf gan y gost, sy’n dangos, hyd yn oed os yw teulu yn byw yn gynnil iawn, bydd yn dal i fod yn brin o thua £270 y mis.

Y broblem yn gwaethygu

Heddiw, mae’r elusen yn rhybuddio mai gwaethygu fydd y broblem, wrth i arbenigwyr ddarogan y bydd bron i hanner o’r boblogaeth yn dioddef o ganser ar ryw adeg o’u bywydau erbyn 2020.

Mae’n debyg nad yw 36% o gleifion yn ymwybodol y bydd canser yn effeithio arnyn nhw’n ariannol, a’r cyngor yw cael  cymorth ariannol cyn gynted â phosib cyn i’r broblem fynd yn rhy fawr.

“Ar adeg pan fydd teuluoedd yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd, gall diagnosis canser fod yn ergyd difrifol, a gall achosi problemau ariannol dybryd,” meddai Susan Morris, pennaeth gwasanaethau Macmillan Cymru.

“Pan fyddwch chi’n cael diagnosis canser, y peth olaf y mae angen i chi fod yn poeni amdano yw sut mae talu’r biliau a chadw to uwch eich pen. Ond does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun – mae help yno i chi.

“Mae Macmillan yn cynnig cymorth ariannol i helpu pobl i gael eu traed danynt unwaith eto. Y llynedd yng Nghymru helpon ni 2,996 o bobl a oedd wedi’u heffeithio gan ganser i ddatgloi gwerth £13.2m mewn budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddyn nhw oherwydd eu salwch.”

Mae’r elusen wedi bod yn galw am gynllun canser newydd gan Lywodraeth newydd Cymru, er mwyn sicrhau bod pobol â chanser yn cael cynnig cyngor ariannol mewn da bryd.