Mae Leanne Wood a Carwyn Jones wedi llongyfarch yr ymgeiswyr buddugol yn etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru.

Dau ymgeisydd yr un sydd gan y ddwy blaid, yn dilyn buddugoliaethau i Dafydd Llywelyn a Arfon Jones (Plaid Cymru), a Jeff Cuthbert ac Alun Michael (Llafur).

Llywelyn yw ymgeisydd newydd Heddlu Dyfed-Powys, tra bod Arfon Jones wedi’i ethol yn y Gogledd.

Mewn datganiad, dywedodd Leanne Wood y byddai dau ymgeisydd buddugol Plaid Cymru’n gweithio er mwyn gwella plismona yn y gymuned, gan gynyddu tryloywder ac atebolrwydd.

“Mae pobol yn ardaloedd heddlu Dyfed-Powys a’r Gogledd wedi pleidleisio o blaid tryloywder ac atebolrwydd yn eu gwasanaethau cyhoeddus.

“Maen nhw wedi pleidleisio fel bod yr heddlu’n dod o dan arweiniad y Cynulliad.”

Ychwanegodd ei bod yn llongyfarch Llywelyn a Jones ar eu buddugoliaethau.

“Tra bod pob un o’r prif bleidiau yn y Cynulliad wedi colli tir, fe bleidleisiodd fwyfwy o bobol dros Blaid Cymru gan eu bod nhw’n ymddiried ynom i sefyll dros Gymru a gwneud yr hyn sy’n iawn i’n cymunedau.”

Llafur

Wrth ymateb i fuddugoliaethau Jeff Cuthbert ac Alun Michael, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau i Alun Michael a Jeff Cuthbert ar eu buddugoliaethau gwych yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.

“Rwy’n gwybod y byddan nhw’n gynrychiolwyr gwych i’w hardaloedd ac y byddan nhw’n gweithio’n galed i gadw eu cymunedau’n ddiogel.”

Fe dalodd deyrnged i’r ddau ymgeisydd aflwyddiannus, David Taylor (Gogledd) a Kevin Madge (Dyfed-Powys).

“Er eu bod nhw’n aflwyddiannus yn eu ceisiadau eu hunain, fe chwaraeon nhw’r rhan fwyaf bosib wth sicrhau canlyniad da i Lafur Cymru yn etholiadau’r Cynulliad.

“Maen nhw’n gweithio’n ddiflino er lles eraill, ac mae’r blaid yn ddyledus iawn iddyn nhw.

“Bydden nhw wedi bod yn gomisiynwyr ardderchog ac rwy’n dymuno’n dda iddyn nhw yn eu heriau nesaf.”