Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaeth dyn yn Aberhonddu.

Cawson nhw eu galw i’r dref yn dilyn adroddiadau bod dyn yn gorwedd yn anymwybodol yn y stryd am 1 o’r gloch y bore.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys nad oes ganddyn nhw esboniad am ei farwolaeth ar hyn o bryd, ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad yn yr ardal.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.

Dywedodd y fyddin mai milwr oedd y dyn fu farw.