Mae pebyll fforensig wedi’u codi yn dilyn ’digwyddiad sylweddol’ yn nhref Aberhonddu fore Sul.

Fe fu adroddiadau yn ystod y bore fod nifer fawr o blismyn yn y dref.

Dydy Heddlu Dyfed-Powys ddim wedi cyhoeddi rhagor o fanylion hyd yma, ond maen nhw wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymdrin â digwyddiad.