Cafodd Mark Williams ei benodi'n swyddogol ddydd Sadwrn
Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams yw arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Mae’n olynu Kirsty Williams, oedd wedi camu o’r neilltu yn dilyn perfformiad siomedig ei phlaid yn etholiadau’r Cynulliad.

Hi bellach yw unig Aelod Cynulliad ei phlaid yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Cafodd Mark Williams ei enwi’n arweinydd yn swyddogol yn dilyn cyfarfod o bwyllgor gweithredol y blaid ddydd Sadwrn.

Gyrfa

Wedi iddo raddio o Brifysgol Aberystwyth, aeth yn ymgyrchydd i un arall o Aelodau Seneddol Ceredigion, Geraint Howells, ac yna’n Gynorthwy-ydd Ymchwil i Arglwyddi Rhyddfrydol yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Treuliodd gyfnod wedyn yn athro ac yn ddirprwy prifathro cyn dychwelyd i’r byd gwleidyddol fel Aelod Seneddol dros Geredigion yn 2005.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael bod yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae’n her fawr cael dilyn yn ôl troed Kirsty Williams, sydd wedi bod yn rhagorol wrth ein harwain ni am wyth mlynedd mewn cyfnod heriol.”

Ychwanegodd fod nifer cynyddol o aelodau ac ymgyrchwyr y blaid yn “galondid”.

Kirsty Williams

Ar raglen ‘Sunday Supplement’ BBC Radio Wales, dywedodd Mark Williams fod colli Kirsty Williams fel arweinydd yn “siom enfawr” gan ei bod yn “arweinydd gwych” ac yn “wleidydd rhagorol”.

Ychwanegodd fod angen i’r blaid dreulio peth amser yn myfyrio ar ganlyniadau siomedig yn etholiadau’r Cynulliad.

Y dyfodol

Dywedodd fod “cryn dipyn o waith i’w wneud ar lawr gwlad”.

Wrth addo canolbwyntio ar ad-drefnu’r blaid, adleisiodd Mark Williams eiriau ei ragflaenydd drwy ddweud y byddai’r ad-drefnu’n digwydd “fesul ward, fesul etholaeth, fesul rhanbarth”.

Wrth droi ei sylw at etholiadau’r cyngor y flwyddyn nesaf, dywedodd fod gan y blaid “garfan ymroddgar o bobol” a bod yn blaid yn “benderfynol o wthio ymlaen”.