Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod yn afon Taf yng Nghaerdydd ddoe.

Cafodd yr heddlu alwad gan aelod o’r cyhoedd tua 5.30 brynhawn ddoe ar ôl i’r corff gael ei weld yn yr afon ger stadiwm Swalec yn y ddinas.

Caiff y dyn a fu farw ei ddisgrifio fel dyn gwyn, wedi eillio ei ben ac a allai fod yn ei 50au o ran oedran. Roedd yn gwisgo top Adidas llwyd ei liw a jîns glas tywyll.

Mae’r heddlu’n ceisio darganfod pwy oedd y dyn, ac maen nhw’n apelio ar i unrhyw un sydd â phryderon am berthynas neu ffrind a allai ffitio’r disgrifiad.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal i geisio darganfod achos y farwolaeth.

Mae’r heddlu wedi cau o amgylch y lle cafodd y corff ei ddarganfod tra bydd eu hymchwiliadau’n parhau.

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 gan nodi rhif cyfeirnod 1600162645 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.